Cyhoeddi adroddiad ymgynghori ar gynllun gwelliannau Cyffordd yr A484 Heol y Sandy / Maes-y-Coed

33 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gofyn am farn preswylwyr, busnesau a defnyddwyr ffyrdd ynghylch y bwriad i wella cyffordd yr A484 Heol y Sandy/Maes y Coed yn Llanelli.

Mae'r cynigion diwygiedig a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac AtkinsRealis wedi'u datblygu drwy gydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru, ac maent yn ganlyniad i flynyddoedd lawer o fireino ar gynlluniau. Mae'r cynigion wedi mynd trwy sawl cam o adolygiad dylunio, yn seiliedig ar fodelu traffig, asesu technegol ac ymgynghoriad cyhoeddus, gyda'r prif nod o wneud y mwyaf o effaith ar dagfeydd tra'n lleihau'r defnydd o dir a'r effaith ar drigolion cyfagos. Ar y cyd â'r gwaith a gwblhawyd yng Nghylchfan Sandy a'r gwaith arfaethedig yn Denham Avenue, mae'r cynigion yn cyflwyno ateb i wella llif traffig aml-fodd a gwella diogelwch ar hyd yr A484 y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w ariannu drwy'r Gronfa Trafnidiaeth Leol.

Cynhaliwyd dau ddigwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd ym mis Mawrth 2025 yn ogystal ag ymgynghoriad ar-lein, gan ddenu 322 o ymatebion. Heddiw, ddydd Mercher 28 Mai 2025, mae canfyddiadau'r digwyddiadau a'r ymgynghoriad mywaf diweddar wedi'u cyhoeddi ar wefan y cynllun. Cliciwch yma i weld yr adroddiad.

Cyhoeddwyd rhestr o Gwestiynau Cyffredin hefyd ar wefan y cynllun. Cliciwch yma i weld y Cwestiynau Cyffredin.

Manylion y gwaith gwella arfaethedig

Mae'r cynllun wedi'i fwriadu i wella dibynadwyedd amser teithio rhwng Llanelli a Phorth Tywyn drwy wella cyffordd yr A484 Heol y Sandy/Maes y Coed, drwy gyflwyno lôn benodol ar gyfer troi i'r dde. Mae'r gwelliannau i'r gyffordd yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â thagfeydd yn ystod oriau brig, gan sicrhau teithio mwy hwylus a dibynadwy i gymudwyr yn yr ardal. Yn ogystal, mae'r cynllun yn ceisio gwella ansawdd aer a'r defnydd o bob math o drafnidiaeth i Ysgol y Strade, Ysgol Ffwrnes a Choleg Sir Gâr ac ohonynt, yn ogystal â gwella'r cyfleusterau Teithio Llesol presennol a gwella dibynadwyedd amseroedd teithiau bws.

Ymysg y gwelliannau allweddol y mae lôn benodol ar gyfer troi i'r dde o'r A484 Heol y Sandy i Heol Maes y Coed, a gwelliannau i'r cyfleusterau teithio llesol presennol gan gynnwys gosod croesfan a reolir newydd ar Heol Maes y Coed, a chyflwyno llinellau stop blaen i feicwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth ymgysylltu â ni ar y prosiect pwysig iawn hwn i wella ansawdd aer, diogelwch y ffyrdd, llif traffig a dengarwch amgylcheddol Heol y Sandy.
Mae'r cymysgedd o safbwyntiau rydyn ni wedi'u casglu yn y digwyddiadau ymgysylltu a'r ymgynghoriad ar-lein yn dystiolaeth o natur heriol y cynllun a bod angen dod i’r ateb mwyaf priodol posibl i’r holl randdeiliaid.
Rhoddwyd ystyriaeth i sawl opsiwn ar gyfer y cynllun hwn dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, rydyn ni'n teimlo'n sicr mai hwn yw'r ateb mwyaf priodol o ystyried y cyllid sydd ar gael i ni, y polisïau trafnidiaeth cyfredol a'r gwaith dadansoddi a wnaed hyd yma.
Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar yr ardal leol, rydyn ni'n bwriadu gwneud y gwelliannau yn ystod gwyliau haf yr ysgolion, rhwng mis Gorffennaf a mis Medi.”

Disgwylir i'r gwelliannau ar yr A484 Heol y Sandy (Heol y Sandy/Maes y Coed) ddechrau ym mis Gorffennaf 2025. Bydd llythyrau yn cael eu hanfon at y preswylwyr lleol yn cadarnhau'r dyddiad cychwyn cyn y gwaith adeiladau. Bydd sesiynau galw heibio, wyneb yn wyneb, hefyd yn cael eu trefnu cyn y cyfnod adeiladu er mwyn rhoi cyfle i’r rhai yr effeithir arnynt godi unrhyw ymholiadau pellach gyda chynrychiolwyr o Gyngor Sir Caerfyrddin, AtkinsRealis a’r Contractwr penodedig.