Cyfle i ddarganfod gorffennol Caerfyrddin drwy ddilyn y Llwybr Placiau Glas newydd
25 diwrnod yn ôl

P'un a ydych chi'n ymwelydd am y tro cyntaf neu'n byw yma ar hyd eich oes, mae ffordd newydd sbon rhad ac am ddim i grwydro un o drefi hynaf a mwyaf hanesyddol Cymru. Diolch i gefnogaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mae Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin wedi lansio'r Llwybr Placiau Glas yn swyddogol - llwybr cerdded hunan-dywys sy'n dod â gorffennol diddorol Caerfyrddin yn fyw trwy gyfres o blaciau coffa wedi'u gosod ar adeiladau a thirnodau arwyddocaol ledled canol y dref.
Yn berffaith ar gyfer teithwyr dydd, teuluoedd a'r rhai sydd wrth eu boddau â hanes, mae'r llwybr yn tynnu sylw at y bobl a'r lleoedd sydd wedi llunio stori Caerfyrddin dros y canrifoedd — o feirdd a gwleidyddion i wyddonwyr arloesol.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae hwn yn weithgaredd am ddim gwych i dwristiaid a phobl leol. Mae Llwybr y Placiau Glas yn ffordd wych a gwahanol o weld Caerfyrddin. Mae'n annog pobl i grwydro'r dref yn hamddenol ar droed. Mae hefyd yn ffordd wych o gefnogi busnesau lleol, wrth i'r llwybr arwain ymwelwyr trwy ein strydoedd hanesyddol, heibio i siopau, caffis ac atyniadau. Arafwch ac edrychwch i fyny, a mwynhewch y dreftadaeth anhygoel sydd o'ch cwmpas"
Mae'r placiau yn anrhydeddu ystod amrywiol o unigolion, pob un â chysylltiad unigryw â'r dref. Dyma'r uchafbwyntiau:
• David Charles – Awdur emynau ac arweinydd ysbrydol dylanwadol.
• Dorothea Bate – Palaeontolegydd arloesol ac un o'r gwyddonwyr benywaidd cyntaf i gael ei chyflogi gan yr Amgueddfa Astudiaethau Natur.
• Syr Richard Steele – Awdur enwog a chyd-sylfaenydd The Spectator.
Mae tirnodau nodedig ar hyd y llwybr yn cynnwys Eglwys Sant Pedr, Neuadd y Dref, a Chofeb Picton - y cyfan o fewn taith gerdded fer o ganol y dref a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'r llwybr yn cynnig ffordd hwyliog, addysgol a hygyrch o ymgysylltu â hanes cyfoethog Caerfyrddin, a hefyd yn rhoi hwb i dwristiaeth ddiwylliannol yn yr ardal.
Dywedodd Jeremy John, Cadeirydd Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin, wrth fynegi diolch i'r Cyngor Sir am y gefnogaeth:
Roedd paratoi'r daflen wedi bod yn llafur cariad ymysg yr aelodau i helpu i hyrwyddo'r Placiau Glas fel nodweddion amlwg o hanes y dref. Roeddem yn fodlon iawn gyda'r ymateb cadarnhaol.”
Mae map y gellir ei argraffu a rhestr lawn o leoliadau placiau ar gael yn: Pethau i'w gwneud - Darganfod Sir Gar
Bydd Darganfod Sir Gâr yn lansio modiwl Llysgennad Twristiaeth y Placiau Glas cyn bo hir. Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i edrych yn fwy manwl ar y straeon y tu ôl i'r placiau a dysgu mwy am y bobl arwyddocaol a helpodd i lunio Sir Gâr. Cofrestrwch i fod yn Llysgennad Twristiaeth yma: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes/twristiaeth/llysgennad-twristiaeth-sir-gaerfyrddin/