Canolfannau Hwb y Cyngor yn helpu pobl Sir Gâr i hawlio dros £7.5m mewn taliadau cymorth
9 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin am sicrhau bod ei holl drigolion yn gwybod am y cymorth ariannol a'r cymorth i aelwydydd sydd ar gael iddyn nhw.
Rydym ni'n deall pa mor anodd yw hi pan mae angen cymorth arnoch chi, ond heb fod yn gwybod ble i droi. Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin dîm penodol o ymgynghorwyr sydd yma i wrando a'ch helpu chi i wneud cais am y cymorth, y gwasanaethau a'r arian y gallech chi fod â hawl i'w cael.
Yn ystod y 18 mis diwethaf mae tîm penodol y Cyngor o ymgynghorwyr Hwb wedi helpu 5,745 o bobl, a gafodd eu cyfeirio i'w wasanaeth, i hawlio dros £7.5m mewn taliadau cymorth a budd-daliadau. Mae ymgynghorwyr Hwb wedi cefnogi ceisiadau am nifer o gynlluniau cymorth gan y Cyngor a thrydydd partïon. Ymhlith y rhain mae bathodynnau glas ar gyfer parcio i bobl anabl, gostyngiadau ar y dreth gyngor, taliadau annibyniaeth personol, a grantiau i helpu rhieni i brynu hanfodion ysgol, fel gwisg ysgol.
Mae 4 ffordd o gael y cymorth hwn.
Ar-lein - drwy fynd i dudalen Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi y Cyngor, lle gallwch gael gwybodaeth am amrywiaeth eang o gynlluniau cymorth neu drefnu i siarad ag ymgynghorydd.
Ewch i un o'n Canolfannau Hwb - yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman a siaradwch ag un o'n hymgynghorwyr Hwb cyfeillgar.
Hwb Bach y Wlad - Fel estyniad o'r tair prif ganolfan Hwb, mae Hwb Bach y Wlad yn dod â gwasanaethau cwsmeriaid Cyngor Sir Caerfyrddin yn uniongyrchol i ardaloedd gwledig.
Ffoniwch ein Canolfan Gyswllt – Gall cwsmeriaid sydd am Atgyfeiriad 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' ffonio 01267 234567, dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am - 6:00pm.
Yn ogystal â chefnogi'r rhai sy'n cael eu cyfeirio i'n hymgynghorwyr Hwb, rydym hefyd wedi darparu ar gyfer bron i 90,000 o ymweliadau gan bobl sydd am gyngor, yn ein tair prif ganolfan Hwb a thrwy gymorthfeydd a digwyddiadau Hwb Bach y Wlad.
Rhai o'r bobl mae ein hymgynghorwyr Hwb wedi helpu yw Mrs H a Mr S (nid dyma eu henwau go iawn).
Mrs H
Erbyn hyn mae Mrs H £800 y mis yn well ei byd ar ôl gofyn am gyngor gan ein hymgynghorwyr Hwb. Yn fam sengl i dri o blant, Mrs H yw perchennog y cartref ac mae'n derbyn taliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) a budd-dal plant. Aeth Mrs H i'r Hwb i siarad ag ymgynghorydd gan ei bod yn cael trafferth talu'r biliau.
Drwy'r ymgynghorydd Hwb, cafodd Mrs H wybod ei bod yn gymwys i gael gostyngiad i'r dreth gyngor, a chafodd gwerth 3 mis o daliadau eu hôl-ddyddio iddi. Roedd hi hefyd yn gymwys i gael gostyngiad person sengl, a chafodd ad-daliad o £1200, credyd cynhwysol, PIP ar gyfradd uwch, bathodyn glas, prydau ysgol am ddim i'w phlant, a grant gwisg ysgol o £200.
Mr S
Aeth Mr S i'r Hwb ar ôl cael strôc yn ddiweddar, ac roedd yn dibynnu ar ffrind i'w helpu i wneud cais am gredyd cynhwysol. Gan fod y ffrind yn ddibrofiad yn llenwi'r ffurflenni perthnasol, cafodd Mr S ei farnu'n ffit i weithio. Roedd ymgynghorydd Hwb wedi gallu helpu Mr S i wneud cais llwyddiannus am daliad disgresiwn at gostau tai, a wnaeth glirio £600 mewn ôl-ddyledion. Cafodd gostyngiad dros dro i'r dreth gyngor ei ailgyfrifo, a chafodd ei ddyled dreth gyngor o £1,440 ei chlirio drwy ostyngiad ar gyfer nam meddyliol difrifol. Rhoddwyd bathodyn glas a thocyn bws pobl anabl i Mr S, a nawr mae'n derbyn £400 yn fwy bob 4 wythnos ar ôl i'w allu i weithio gael ei ailasesu. Hefyd rhoddwyd cyfradd PIP uwch o £184 yr wythnos iddo.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Linda Evans:
Mae costau byw yn rhoi pwysau real iawn ar lawer ohonon ni, ac mae'n hynod bwysig bod pobl yn gwybod pa gymorth a budd-daliadau sydd ar gael iddyn nhw.
Mae'r broses o wneud cais am gymorth yn codi ofn ar lawer ac yn ormod iddyn nhw, ond mae help wrth law drwy ymgynghorwyr Hwb y Cyngor Sir yn Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin. Gall ein hymgynghorwyr Hwb eich arwain drwy'r gwahanol brosesau o wneud cais am gymorth a budd-daliadau, a hynny'n rhad ac am ddim.
Mae ein tair prif ganolfan Hwb a gwasanaeth gwledig Hwb Bach y Wlad yn gweithio gyda dros 50 o sefydliadau partner er mwyn darparu gwasanaeth cyfannol eithriadol i'n cwsmeriaid.”
I gael help gan ymgynghorydd HWB neu i gael rhagor o wybodaeth am sut i gael cymorth, budd-daliadau a gwasanaethau, ewch i'r dudalen Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.
Lleoliad |
Pryd |
Clwb a Sefydliad Gweithwyr Cross Hands |
Dydd Gwener 1af a 3ydd dydd Gwener y mis - 10am-3pm |
Canolfan Cymunedol Cwmaman |
2il ddydd Gwener y mis - 10am-3pm |
Canolfan y Dywysoges Gwenllian, Cydweli |
2il ddydd Llun y mis - 10am-3pm |
Neuadd Goffa Talacharn |
2il ddydd Mercher y mis - 10am-3pm |
Neuadd Ddinesig Llandeilo |
Dydd Iau 1af a 3ydd dydd Iau y mis - 10am-3pm |
Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri |
3ydd dydd Mawrth y mis - 10am-3pm |
Clwb Rygbi Llanybydder |
Dydd Iau olaf y mis - 10am-3pm |
Neuadd Cawdor Castellnewydd Emlyn |
Dydd Mercher 1af y mis - 10am-2pm |
Y Gât, Sanclêr |
3ydd dydd Mawrth y mis - 10:30am-3pm |
Neuadd y Dref, Hendy-gwyn ar Daf |
2il ddydd Mawrth y mis - 10am-3pm |