Ysgolion Sir Gâr yn lansio menter monitro gwastraff bwyd

1 diwrnod yn ôl

I nodi Diwrnod Atal Gwastraff Bwyd (30 Ebrill 2025), rydym ni'n rhoi sylw i gynllun peilot Bwydlen Cenedlaethau'r Dyfodol, sef menter i ailwampio ciniawau ysgolion cynradd gan ddefnyddio cynnyrch lleol. Mae Bwydlen Cenedlaethau'r Dyfodol yn cefnogi iechyd, cynaliadwyedd, gwerth cymdeithasol, ac addysg gan sicrhau bod arlwyo ysgolion yn cyd-fynd ag amcanion amgylcheddol, twf gwledig, a thargedau sero net.

Fel rhan o gynllun peilot Bwydlen Cenedlaethau'r Dyfodol, mae tair ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin, sef Ysgol Teilo Sant, Ysgol Penrhos ac Ysgol Gynradd Llandeilo, yn lleihau gwastraff bwyd drwy systemau monitro gwastraff bwyd.

Bydd y systemau hyn yn olrhain gwastraff plât y mae modd ei osgoi a gwastraff cegin nad oes modd ei osgoi, gan ddarparu gwybodaeth am lefelau gwastraff bwyd dyddiol mewn ysgolion, a fydd yn helpu i lywio ymdrechion cynaliadwyedd yn y dyfodol.

Mae'r fenter hefyd yn annog disgyblion i gymryd rhan, gan ganiatáu iddyn nhw fod yn rhan weithredol o'r gwaith o fonitro gwastraff bwyd.

Bwriad Bwydlen Cenedlaethau'r Dyfodol yw bod yn fwy cynaliadwy, a chynnwys cynhwysion wedi'u tyfu'n lleol ar Fferm Bremenda, sy'n eiddo i'r Cyngor. Mae plannu cynnyrch ffres yn cael ei gyfrifo i gyd-fynd â'r niferoedd sydd eu hangen ar yr ysgolion, gan leihau gwastraff y gadwyn gyflenwi. Mae symiau penodol o gynnyrch yn cael eu dosbarthu'n wythnosol i ysgolion, o fewn diwrnod o'i gynaeafu.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Mae'r fenter yma'n gam sylweddol ymlaen yn ein hymdrechion i greu system prydau ysgol sy'n fwy cynaliadwy ac yn fwy ymwybodol o'r amgylchedd. Trwy gynnwys disgyblion yn y broses fonitro a gweithio'n agos gyda Fferm Bremenda, rydyn ni nid yn unig yn lleihau gwastraff bwyd ond hefyd yn dysgu pwysigrwydd bod yn gynaliadwy i'r genhedlaeth nesaf.

Os bydd yn llwyddiannus, bwriad y Cyngor yw ymestyn y fenter i ysgolion eraill ledled y sir, gan gynnwys ysgolion uwchradd, fel rhan o strategaeth hirdymor wedi'i hanelu at leihau'n sylweddol wastraff bwyd ym mhob rhan o'r sir.

Dysgwch fwy: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/addysg-ac-ysgolion/prydau-ysgol/bwydlen-cenedlaethaur-dyfodol/