Ymateb i bryderon gan y cyhoedd yn dilyn adroddiadau am gŵn yn mynd yn sâl ar hyd rhai traethau – 2 Ebrill 2025
1 diwrnod yn ôl
“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymwybodol o bryderon a godwyd gan y cyhoedd yn dilyn adroddiadau am gŵn yn mynd yn sâl ar hyd rhai traethau. Mae'r Cyngor mewn cyswllt â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a milfeddygon lleol, i sicrhau bod gwybodaeth ffeithiol berthnasol yn cael ei rhannu ag asiantaethau eraill, gan gynnwys Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghylch unrhyw gamau dilynol. Os yw pobl yn bryderus, byddem yn awgrymu cadw'ch ci ar dennyn a rheoli'r hyn mae'n ei fwyta a'i yfed pan fydd ar y traeth.
“Caiff y cyhoedd eu hatgoffa hefyd i fod yn ymwybodol o Gegid, planhigyn gwenwynig sy'n cynhyrchu clystyrau tebyg i ymbarél o flodau gwyn yn yr haf. Gellir dod o hyd iddo mewn llefydd llaith, fel ffosydd, glannau afonydd, a thir gwastraff, ond nid yw'n debygol o gael ei ganfod ar ardaloedd agored sy'n newid yn gyson fel traethau, oni bai bod ei wreiddiau yn cael eu golchi i fyny ar y lan. Cynghorir y cyhoedd i osgoi'r planhigion hyn a sicrhau nad yw eu cŵn yn mynd yn agos iddyn nhw ychwaith.”
Y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Ddiogelu'r Cyhoedd