Ymateb i bryderon gan y cyhoedd yn dilyn adroddiadau am gŵn yn mynd yn sâl ar hyd rhai traethau

2 diwrnod yn ôl

Cyngor ar Gegid

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dod yn ymwybodol o bryderon a godwyd gan y cyhoedd yn dilyn adroddiadau am gŵn yn mynd yn sâl ar hyd rhai traethau.

Caiff y cyhoedd eu hatgoffa i fod yn ymwybodol o Gegid, planhigyn gwenwynig sy'n cynhyrchu clystyrau tebyg i ymbarél o flodau gwyn yn yr haf. Gellir dod o hyd iddo mewn llefydd llaith, fel ffosydd, glannau afonydd, a thir gwastraff, ond nid yw'n debygol o gael ei ganfod ar ardaloedd agored sy'n newid yn gyson fel traethau, oni bai bod ei wreiddiau yn cael eu golchi i fyny ar y lan.

Mae Cegid yn blanhigyn tal, unionsyth, y gellir ei adnabod wrth yr arogl nodedig ac annymunol, 'llygodaidd' sydd ar ei ddail a'r sbotiau porffor ar ei goesynnau. Mae ganddo ddail mawr wedi'u rhannu'n fân, ac mae ei flodau'n fach ac yn wyn ac yn ymddangos mewn clystyrau tebyg i ymbarelau.

Mae gan Gegid arogl atgas pan gaiff ei ddail eu gwasgu, sy'n helpu i sicrhau nad oes gwenwyno damweiniol yn digwydd yn aml iawn - mae hyd yn oed da byw yn cymryd gofal i'w osgoi.

Mae'n well gan y planhigyn eilflwydd hwn fannau llaith a gall dyfu mewn cytrefi mawr ar dir gwastraff, ar lannau afonydd, ac mewn ffosydd, ond gellir ei weld hefyd ar hyd ymylon ffyrdd, ond fel arfer mae ynghwsg yr adeg hon o'r flwyddyn gydag ychydig iawn o dwf yn dangos. Mae tebygrwydd rhwng gwraidd y planhigyn a phannas.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Ddiogelu'r Cyhoedd: “Mae Cegid yn blanhigyn gwenwynig ac mae'r Cyngor Sir yn cynghori'n gryf, os ydych chi'n dod ar draws y gwreiddiau, eich bod yn sicrhau nad ydych chi'n caniatáu i'ch ci ei fwyta a'ch bod yn rhoi eich ci ar dennyn.

“Dylen ni hefyd osgoi cyffwrdd â'r gwreiddiau, sy'n edrych yn debyg i bannas.”