Ydych chi wedi gweld ein Murluniau?

2 diwrnod yn ôl

Ydych chi'n chwilio am ffordd newydd o ddarganfod Sir Gâr dros y Pasg? Beth am fynd ar daith drwy drefi marchnad gwledig y Sir i weld y murluniau gwych sy'n aros i gael eu darganfod?

Mae teuluoedd yn gallu mynd mas am y diwrnod gyda phicnic, wrth i'r plant chwilio am ddreigiau, anifeiliaid fferm, cestyll a marchogion! Ewch i'r lleoliadau isod a lanlwythwch eich lluniau gan ddefnyddio'r hashnod #MurluniauSirGâr. Cofiwch ein tagio ni!

Fel rhan o'r Rhaglen Deg Tref, mae artist lleol JenksArt wedi cael ei gomisiynu i greu celf stryd fywiog ar draws ein trefi marchnad gwledig. Mae saith murlun yn barod i'w harchwilio a bydd tri arall yn cael eu cwblhau ar ddiwedd y gwanwyn.

Gallwch weld y darnau celf bywiog hyn yn y lleoliadau canlynol:

  • Talacharn – Clifton Street, Caerfyrddin SA33 4GQ
  • Cross Hands – ochr Squires and Lane Hairdressers, Heol Llandeilo SA14 6NA
  • Sanclêr – ochr Evans Pharmacy, Heol y Pentre, Sanclêr,  SA33 4AA
  • Hendy-gwyn ar Daf – Clwb Criced, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0HR
  • LlandeiloJenkins Pharmacy, Cubitts Court, Llandeilo, SA19 6HJ 
  • Cydweli- Clwb Rygbi, Heol yr Orsaf, Cydweli, SA17 4SU
  • Castellnewydd Emlyn- blociau toiledau, SA38 9BG

Llanybydder, Cwmaman a Llanymddyfri fydd yr ardaloedd nesaf i Jenks ymweld â nhw i ychwanegu lliw a chymeriad i'n trefi marchnad.

Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:

Diolch i Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a'r prosiect 10 Tref, rydym wedi gallu dangos hanes, diwylliant ac ysbryd cymunedol Sir Gaerfyrddin drwy gelf! Mae'n hyfryd gweld ein trefi marchnad gwledig yn dod yn fyw mewn ffordd mor lliwgar a chreadigol. Hoffwn ddiolch i Jenks Art am ddod â bywiogrwydd i'n trefi marchnad.