Y Cyngor yn chwilio am help i adnabod unigolyn yn dilyn trosedd baw ci

22 diwrnod yn ôl

Diweddariad 17/04/25

Diolch i’r rhai sydd wedi ein helpu gyda’n hymchwiliad. Mae enw wedi dod i law ac rydym felly wedi tynnu'r delweddau i lawr wrth i’n hymchwiliad barhau.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin am gael help i adnabod unigolyn sydd wedi cael ei weld yn peidio â chodi baw ci yn Llanelli. 

Mae'r lluniau sydd i'w gweld ar deledu cylch cyfyng yn dangos hyn yn digwydd yn Nheras Clifton yn Llanelli. 

Y gobaith yw y bydd trigolion yn gallu helpu i adnabod yr unigolyn. 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Yn dilyn ein llwyddiant o'r blaen, rydyn ni unwaith eto yn gofyn am help gan aelodau o'r cyhoedd i adnabod unigolyn sydd wedi cael ei weld yn peidio â chodi baw ci."
“Mae ein Tîm Gorfodi Materion Amgylcheddol yn parhau i weithio i ddelio â throseddau amgylcheddol ledled Sir Gaerfyrddin. Rwy'n annog y nifer bach o bobl nad ydyn nhw'n codi baw eu ci i newid eu hymddygiad.”

Gallwch chi roi gwybod i ni ar ein gwefan neu ffonio 01267 234567. 

Nodyn ar gyfer golygyddion: Mae'r wybodaeth hon yn cael ei datgelu o dan yr eithriad yn narpariaethau Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data yn Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 2 (1) (c) o Ddeddf Diogelu Data 2018 gan y byddai peidio â datgelu'r lluniau hyn yn niweidiol i'r pwrpas o ddal neu erlyn troseddwr.