Sir Gâr i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VE

1 diwrnod yn ôl

Bydd Cyngor Sir Gâr yn coffáu 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE) ym mis Mai, ac mae nifer o ddigwyddiadau a theyrngedau arbennig yn cael eu cynnal ledled y sir.

I nodi'r digwyddiad arwyddocaol hwn, bydd baner Jac yr Undeb yn cael ei chwifio y tu allan i Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin, Neuadd y Dref, Llanelli a Neuadd y Dref, Rhydaman. Yn ogystal, bydd Neuadd y Sir yn cael ei goleuo ar nos Iau 8 Mai i anrhydeddu'r digwyddiad.

Gwahoddir preswylwyr ac ymwelwyr i gymryd rhan yn yr ystod eang o ddigwyddiadau sy'n digwydd ledled Sir Gâr i goffáu 80 mlynedd ers Diwrnod VE. Mae'r dathliadau yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau fel boreau coffi, gorymdeithiau, picnics yn y parc, a chyngerdd arbennig, gan gynnig rhywbeth i bawb.

Bydd Parc Gwledig Pen-bre yn nodi'r achlysur ar 4–5 Mai gyda phenwythnos y Rhyfel Byd Cyntaf ac arddangosfa 1940 y Gwarchodlu Cartref, sy'n cynnwys cerddoriaeth fyw, arddangosfeydd hanes, masnachwyr o'r oes a fu, a dawns de gyda gwersi jive.

Yn ogystal, bydd Llanelli yn cynnal gwasanaeth arbennig yn Eglwys Plwyf Sant Elli ac wedyn goleuo ffagl. Bydd y digwyddiadau hyn yn dod â chymunedau at ei gilydd i fyfyrio, cofio a dathlu'r garreg filltir hanesyddol hon.

I gael rhagor o wybodaeth ac i weld beth sydd ymlaen yn eich ardal chi, ewch i https://www.darganfodsirgar.com/be-sy-mlaen/  

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin:

Mae Diwrnod VE yn amser i ni ddod at ein gilydd fel cymunedau i gofio dewrder, gwytnwch ac aberth y rhai a wasanaethodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'r digwyddiad eleni, 80 mlynedd ers Diwrnod VE, yn arbennig o ingol, wrth i ni barhau i anrhydeddu cenhedlaeth y mae ei etifeddiaeth wedi siapio'r byd rydyn ni'n byw ynddo heddiw. Rwy'n annog pawb i gymryd rhan yn y digwyddiadau ledled y sir a sicrhau bod y straeon hyn yn parhau.”