Rhan orllewinol Llwybr Dyffryn Tywi yn agor i'r cyhoedd

12 diwrnod yn ôl

Heddiw, dydd Gwener 11 Ebrill 2025, mae Cyngor Sir Gâr wedi agor rhan gyntaf llwybr Dyffryn Tywi yn swyddogol.

Mae rhan orllewinol Llwybr Dyffryn Tywi o Abergwili i Nantgaredig tua 4 milltir o hyd ac mae bellach ar agor i gerddwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn a beicwyr fel ei gilydd i fwynhau gweithgaredd hamdden di-draffig trwy un o ardaloedd mwyaf hardd Cymru.

Gwyliwch y fideo hwn o'r awyr o Lwybr Dyffryn Tywi, rhwng Nantgaredig a Felin-wen.

Mae Llwybr Dyffryn Tywi yn ei gyfanrwydd yn ymestyn o Abergwili i Ffair-fach, a disgwylir iddo agor yn ystod hydref/gaeaf 2025. Bydd yn darparu llwybr di-draffig 16.7 milltir o hyd gan ddilyn trywydd afon Tywi wrth iddi lifo o Landeilo i Gaerfyrddin, a hynny drwy olygfeydd godidog sy'n cynnwys cestyll, parciau gwledig ac ystadau hanesyddol yn ogystal ag atyniadau gan gynnwys Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Gerddi Aberglasne.

Mae'r datblygiad mawr hwn wedi cael ei gefnogi gan £16.7miliwn gan Lywodraeth DU.

Bydd Llwybr Dyffryn Tywi yn denu ymwelwyr o bob rhan o Gymru, y DU a thu hwnt gyda'r potensial i gynhyrchu tua £4.4 miliwn y flwyddyn i'r economi leol, gan greu swyddi mewn busnesau lleol drwy nifer uwch o ymwelwyr a gwariant. Mae'r Cyngor yn gweithio gyda threfnwyr hamdden, lletygarwch, digwyddiadau presennol a newydd ynghyd â darparwyr llety i sicrhau potensial mwyaf posibl y cyfleuster hwn ochr yn ochr â'r llwybrau di-draffig eraill y mae'r Sir yn eu cynnig.

Mae mynediad i'r llwybr ar gael ger Amgueddfa Abergwili, ac oddi ar y B4310 yng nghanol Nantgaredig, ger y Clwb Rygbi. Bydd mannau parcio ar gael ger tir yr amgueddfa ac yng Ngwesty'r Railway, Nantgaredig, bydd lluniaeth ar gael i'w prynu yn y ddau leoliad.

I'r rhai sy'n hyderus o wneud hynny, gellir cyrraedd y llwybr yn hawdd o ganol tref Caerfyrddin hefyd.

Mae biniau wedi'u darparu mewn lleoliadau allweddol ar hyd y llwybr ac atgoffir defnyddwyr i gael gwared ar sbwriel a gwastraff cŵn yn gyfrifol.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Rydym yn falch iawn o agor y rhan orllewinol hon o Lwybr Dyffryn Tywi yn swyddogol yn barod ar gyfer gwyliau'r Pasg. Mae'r llwybr di-draffig hwn o'r radd flaenaf yn cynnig cyfle heb ei ail i deuluoedd, ymwelwyr dydd, a thwristiaid brofi harddwch unigryw a syfrdanol Dyffryn Tywi.

Rwy'n edrych ymlaen at agor y llwybr cyfan, o Abergwili i Ffairfach yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ar ôl ei gwblhau, bydd Llwybr Dyffryn Tywi nid yn unig yn gwella mynediad i'n trefi a'n pentrefi lleol, dymunol ond hefyd yn rhoi hwb sylweddol i dwristiaeth ledled y sir, gan ddod â nifer o fanteision economaidd."