Newidiadau i gasgliadau gwastraff dros gyfnod Gŵyl Banc Calan Mai
2 diwrnod yn ôl

Bydd newidiadau i gasgliadau gwastraff dros gyfnod Gŵyl Banc Calan Mai eleni.
Bydd pob casgliad yn digwydd ddiwrnod yn hwyr fel y dangosir isod:
Diwrnod casglu arferol |
Diwrnod Casglu diwygiedig |
Dydd Llun, 5 Mai |
Dydd Mawrth, 6 Mai |
Dydd Mawrth, 6 Mai |
Dydd Mercher, 7 Mai |
Dydd Mercher, 7 Mai |
Dydd Iau, 8 Mai |
Dydd Iau, 8 Mai |
Dydd Gwener, 9 Mai |
Dydd Gwener, 9 Mai |
Dydd Sadwrn, 10 Mai |
Rhowch eich sbwriel mas erbyn 6am ar y diwrnod casglu diwygiedig. Bydd casgliadau gwastraff hylendid a gwastraff gardd hefyd yn dilyn yr amserlen ddiwygiedig. Ailgylchwch gymaint â phosibl a chofiwch dim mwy na thri bag du.
Er mwyn helpu i sicrhau bod casgliadau'n rhedeg yn esmwyth dros gyfnod Gŵyl y Banc, mae gweithwyr ychwanegol wedi'u penodi yn dilyn ymgyrch recriwtio ddiweddar.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gwastraff, Trafnidiaeth a Seilwaith:
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff dibynadwy i’n preswylwyr, hyd yn oed yn ystod cyfnodau prysur fel Gŵyl Banc Calan Mai. Yn dilyn y casgliadau llwyddiannus dros Wyliau’r Pasg, rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau’r un gwasanaeth dibynadwy ar gyfer yr Ŵyl Banc nesaf. Yn olaf, hoffwn ddiolch i’r timau diwyd sy’n gwirfoddoli i ddarparu ein gwasanaethau yn ystod gwyliau banc.
Er ein bod yn anelu at gasglu yn ôl yr amserlen, efallai y bydd tarfu lleol a allai newid ar fyr rybudd. I helpu i osgoi tarfu ar gasgliadau ac i sicrhau diogelwch pawb yn ein cymuned, gofynnwn i chi barcio’n gyfrifol i sicrhau y gall cerbydau casglu gwastraff fynd heibio’n ddiogel.
Cadwch lygad ar ein tudalen tarfu ar gasgliadau gwastraff i weld unrhyw ddiweddariadau.
Bydd y canolfannau ailgylchu yn Nhrostre, Nantycaws, Wernddu, a Hendy-gwyn ar Daf ar agor fel arfer dros benwythnos Gŵyl y Banc. Gallwch wirio eu horiau agor yma.
Diolch yn fawr am ailgylchu.