Mae disgyblion Sir Gâr yn elwa o leoliadau yn y gweithle
7 diwrnod yn ôl

Mae disgyblion o ysgol uwchradd yn Sir Gâr wedi bod yn cymryd rhan mewn rhaglen beilot i roi profiad iddyn nhw o'r gweithle a heriau bywyd go iawn.
Dros gyfnod o flwyddyn, bydd pob un o ddisgyblion blwyddyn 10 o Ysgol Dyffryn Aman yn cymryd rhan yn y 'Rhaglen Ddysgu Byd Go Iawn' am gyfnod o chwe wythnos. Mae'r rhaglen wedi'i hariannu gan Raglen Sgiliau a Thalentau'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol.
Bydd y peilot, a ddechreuodd ym mis Medi 2024 ac a fydd yn parhau hyd at fis Medi 2025, yn ymgysylltu â thros 250 o fyfyrwyr drwy gydol y rhaglen.
Nod y cynllun peilot yw helpu pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau a'r talentau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol, gan gysylltu eu diddordebau, eu galluoedd a'u sgiliau â chyfleoedd gwaith lleol.
Yn ystod y cynllun peilot, bydd disgyblion yn ennill profiad o weithio ar heriau bywyd go iawn o fewn adrannau amrywiol y Cyngor, gan gynnwys Canolfan Gofal Dydd Ffordd y Faenor, Canolfan Hamdden Dyffryn Aman, Safonau Masnach a Llyfrgell Rhydaman, yn ogystal â busnesau lleol.
Fel rhan o'u lleoliadau presennol, mae pedwar disgybl sy'n gwneud profiad gwaith yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman wedi croesawu'r her o greu llwyfannau â'r nod o gysylltu â chynulleidfa iau'r ganolfan. Yn ogystal, mae pedwar disgybl arall ar leoliad yn Llyfrgell Rhydaman wedi bod yn canolbwyntio ar annog pobl ifanc ac oedolion ifanc i ymweld â'r llyfrgell a darganfod yr ystod o wasanaethau y mae'n eu cynnig.
Wrth siarad am eu profiadau, dywedodd Jorja Morgan, 15 oed:
Roeddwn i'n mwynhau meddwl am syniadau a dylunio ardal ddarllen awyr agored. Dw i wedi bod yn dysgu sgiliau ffotograffiaeth newydd a defnyddio cyfarpar yn yr ystafell makerspace."
Ychwanegodd Molly Vaughan Jones, 15:
Roeddwn i'n hoffi dylunio'r logo a thynnu lluniau.”
Ar gyfer Wythnos Genedlaethol Profiad Gwaith (14-18 Ebrill) mae Cyngor Sir Gâr yn annog myfyrwyr neu unrhyw un dros 14 oed (blwyddyn 10 yn yr ysgol) neu'n hŷn i wneud cais am leoliad gwaith di-dâl o fewn yr Awdurdod.
Gall profiad gwaith roi cyfle i bobl ifanc roi cynnig ar faes gwaith a allai ddylanwadu ar ba gwrs Safon Uwch, cwrs prifysgol maen nhw'n penderfynu ei ddilyn neu benderfynu newid gyrfaoedd yn gyfan gwbl.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg a'r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies:
Mae profiad gwaith byd go iawn yn agor drysau i bobl ifanc, gan roi blas iddyn nhw o wahanol gyrfaoedd. Rydym wrth ein bodd i gefnogi rhaglenni sy'n cynnig dysgu ymarferol, gan roi'r hyder i bobl ifanc wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu dyfodol.”
Mae rhagor o wybodaeth am gyfleoedd profiad gwaith yn y Cyngor yn ogystal â ffurflen gais ar gael ar wefan y Cyngor: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/swyddi-a-gyrfaoedd/profiad-gwaith/cyfleoedd-lleoliad/
*Er ein bod yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer cynifer o bobl â phosibl, nid yw cyflwyno cais yn gwarantu lleoliad. Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 14 diwrnod i drafod trefniadau neu unrhyw opsiynau eraill y gallwn eu cynnig os nad oeddem yn gallu bodloni'ch cais gwreiddiol.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol ar gael drwy fynd i: https://www.rlp.org.uk/cym/home