Gweithgareddau Pasg cyffrous ac am ddim yn Sir Gâr i deuluoedd

17 diwrnod yn ôl

Gall teuluoedd ledled Sir Gâr edrych ymlaen at Basg gwych, yn llawn digwyddiadau am ddim a fforddiadwy, marchnadoedd, a gweithgareddau addas i deuluoedd. P'un a ydych chi'n chwilio am helfa wyau Pasg wefreiddiol, llwybr Pasg hudolus, neu farchnad ffermwyr fywiog, mae Sir Gâr yn cynnig rhywbeth ar gyfer pob oedran a diddordeb y Pasg hwn, heb wario ffortiwn.

Ewch i dudalen Be sy' Mlaen Darganfod Sir Gâr i weld rhestr lawn o weithgareddau.

Dewch i ymuno â Hwyl y Pasg

Ymunwch â'r Llwybr Wyau Pasg cyffrous yn Caban, Pentywyn, ar 20 Ebrill, lle gall teuluoedd archwilio, datrys cliwiau, a dod o hyd i syrpreisys blasus y Pasg.

Mae Llyfrgelloedd Sir Gâr yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl i blant o bob oed y Pasg hwn. Gall y rhai bach fwynhau sesiynau Amser Stori Actif a Lliwio, a gall egin adeiladwyr fod yn greadigol drwy chwarae Duplo a Lego. Gall plant hŷn gymryd rhan mewn gweithdai gwneud gemwaith a sesiwn wyddoniaeth Fizzpop gyffrous. Gall teuluoedd hefyd fwynhau sioeau ffilm i blant a chelf a chrefft ar thema'r gwanwyn. Hefyd, bydd y digwyddiad Dogs Trust, fydd yn berffaith ar gyfer y rhai sy'n dwlu ar anifeiliaid!

Y Pasg hwn, gall teuluoedd fwynhau sesiynau nofio am ddim bob prynhawn Sadwrn yng Nghanolfan Hamdden Actif Llanelli.  Bydd sesiynau nofio am ddim yn cael eu cynnal bob prynhawn Sul yng nghanolfannau hamdden Dyffryn Aman a Llanymddyfri, diolch i Fenter Nofio am Ddim Llywodraeth Cymru. Ochr yn ochr â'r gweithgareddau hyn, gall plant fwynhau amrywiaeth o opsiynau â thâl, gan gynnwys Clwb Gwyliau cyffrous Actif, gwersi nofio dwys, hwyl ag offer gwynt, a phartïon ar thema'r Pasg. Ewch i wefan Actif i gael rhagor o wybodaeth.

Cofiwch siopa'n lleol y Pasg hwn a dewis cynnyrch ffres, nwyddau wedi'u gwneud â llaw, a danteithion tymhorol ym marchnadoedd ffermwyr Talog a Llanybydder (12 Ebrill).

Beth am fod yn greadigol a chymryd rhan yng Nghystadleuaeth Bonedi Pasg Maes Myrddin?  Gwisgwch i greu argraff a lanlwytho eich lluniau i Facebook i gael cyfle i ennill un o ddwy daleb gwerth £50.

Dewch i gwrdd â Lightning McQueen, Tow Mater, a Professor Z yn nigwyddiad Cartoon Capers Ymlaen Llanelli. Gwisgwch fel eich hoff gymeriad cartŵn a mwynhau diwrnod hudolus gyda replicas maint go iawn o'ch hoff gymeriadau.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Sir Gâr yw'r gyrchfan berffaith i deuluoedd y Pasg hwn, gyda chymysgedd gwych o weithgareddau am ddim a fforddiadwy ar gyfer pob oedran. P'un a ydych chi'n hela wyau Pasg, yn crwydro ein tirweddau hardd, neu'n mwynhau un o'n digwyddiadau lleol cyffrous, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.”

Rhagor o Anturiaethau Pasg

I'r rhai sy'n chwilio am hyd yn oed mwy o ffyrdd i ddathlu, mae Sir Gâr yn cynnig amrywiaeth o brofiadau am ddim a fforddiadwy:

Llwybrau Pasg

  • Amgueddfa Sir Gâr (18 – 21 Ebrill): Dilynwch gliwiau Bwni'r Pasg i helpu i ddatrys dirgelwch te parti a hawlio'ch gwobr siocled! (£2.50 y llwybr)
  • Amgueddfa Wlân Cymru (29 Mawrth – 26 Ebrill): Dilynwch lwybr dwyieithog lliwgar i gael cyfle i ennill gwobr arbennig. (£3 yr un)

Cwrdd â Bwni'r Pasg ac Anifeiliaid

  • Rheilffordd Llanelli a'r Mynydd Mawr (19 Ebrill): Dewch i gwrdd â Bwni'r Pasg, cymryd rhan mewn gweithgareddau natur, a mwynhau teithiau trên diderfyn. (£7.50 yr oedolyn/plentyn)
  • Profiad Anifeiliaid y Pasg yn Theatr y Ffwrnes Llanelli (24 Ebrill): Cyfle i gwrdd ag anifeiliaid o Will's Petting Farm. (£7.50 y tocyn, rhaid archebu lle)

 

Profiadau Awyr Agored a Diwylliannol

  • Ewch i archwilio traethau hardd fel Cefn Sidan, Pentywyn a Llansteffan.
  • Camwch yn ôl mewn amser mewn cestyll hanesyddol fel Castellnewydd Emlyn a Dinefwr.
  • Darganfyddwch lwybrau natur a llwybrau beicio drwy Ddyffryn Tywi, Llwybrau Sustrans 4 a 47, a Llyn Llech Owain.
  • Ewch i'r Amgueddfa Cyflymder i weld 'Babs', y car rasio enwog sydd wedi'i adnewyddu, rhwng 31 Mawrth a 29 Medi.
  • Ewch i ddathlu agoriad swyddogol Cwrs Gwallgolff 12 twll newydd Caban ar 12 Ebrill.
  • Ewch i ddathlu treftadaeth tref Caerfyrddin drwy ddilyn Llwybr Placiau Glas Caerfyrddin. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gweithio gyda Chymdeithas Ddinesig Caerfyrddin i greu Llwybr Placiau Glas i gydnabod pobl a digwyddiadau pwysig sydd wedi cyfrannu at dreftadaeth a diwylliant yr ardal.

Cymerwch ran ar y cyfryngau cymdeithasol.

Byddwch yn rhan o ddathliadau'r Pasg drwy rannu eich profiadau gan ddefnyddio #DymaSirGâr, #TeimlorHwyl, a #PasgynSirGâr. Dilynwch ni ar Facebook ac Instagram i weld y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau.

Cyfle i hyrwyddo digwyddiadau am ddim

Gall trefnwyr digwyddiadau Pasg yn Sir Gâr hyrwyddo eu gweithgareddau am ddim ar DarganfodSirGar.com, gan helpu mwy o bobl i ddod o hyd i'w digwyddiadau a'u mwynhau y tymor hwn.

Cynlluniwch eich antur Pasg heddiw!

Sir Gâr yw'r lle i fod y Pasg hwn! P'un a ydych chi'n chwilio am ddanteithion siocled, gweithgareddau awyr agored gwefreiddiol, neu brofiadau diwylliannol, mae rhywbeth ar gyfer pob oedran a diddordeb y Pasg hwn. I gael rhagor o wybodaeth ac archebu, ewch i Darganfod Sir Gâr.