Ein Trefi Gwledig: Talacharn

20 diwrnod yn ôl

Fel rhan o'r rhaglen Deg Tref gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mae trefi marchnad gwledig ar draws y sir wedi cael cefnogaeth i ddatblygu prosiectau newydd cyffrous i ychwanegu bywiogrwydd a budd economaidd i'w tref. Y mis hwn, rydym yn canolbwyntio ar Dalacharn, ac yn edrych ar sut y mae'r dref wedi elwa ar gyllid trwy Gyngor Sir Caerfyrddin a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae Talacharn, tref arfordirol swynol ar yr aber lle mae Afon Taf yn llifo i Fae Caerfyrddin, yn enwog am ei chastell, ei phensaernïaeth hanesyddol, a'i chysylltiad â'r bardd Dylan Thomas. Mae'n cynnwys arfordir hardd ac mae wedi dod yn boblogaidd i breswylwyr parhaol a chartrefi gwyliau. Mae busnesau twristiaeth, llety a chroesogarwch yn rhan fawr o'r economi leol. Mae preswylwyr yn dod o hyd i waith mewn ardaloedd cyfagos fel Sanclêr a Chaerfyrddin, sy'n cynnig swyddi diwydiannol, masnachol a sector cyhoeddus. Mae'r economi hefyd yn cefnogi mentrau gwledig fel amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd, a thwristiaeth, ynghyd â micro-fusnesau amrywiol, gan gynnwys diwydiannau ffordd o fyw a chreadigol. I ddysgu rhagor am Dalacharn fel cyrchfan, ewch i Darganfod Sir Gâr. 

Un o brosiectau amlwg y rhaglen Deg Tref yw ailddatblygu hen safle bwyty Portreeve yn Tŷ Glo, bwyty newydd sy'n addas i deuluoedd. Mae'r datblygiad hwn, wedi'i gefnogi gan Gronfa Datblygu Cyfalaf y Deg Dref, wedi trawsnewid yr eiddo gwag i leoliad bwyd a diod poblogaidd sydd eisoes wedi creu mwy nag 8 swydd amser llawn.

Mae Neuadd Goffa Talacharn, canolfan ganolog i'r gymuned leol, hefyd wedi cael cefnogaeth drwy Brosiect Refeniw y Deg Tref. Gyda'r nod o archwilio cyfleoedd economaidd yn y dyfodol a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor, dyrannwyd cyllid i gynnal ymchwil i'r farchnad ac asesu dichonoldeb datblygu marchnad cynnyrch a chrefft yn y neuadd. Bydd y fenter hon yn darparu cyfleoedd newydd i fusnesau lleol, gan eu galluogi i gyrraedd cynulleidfa ehangach a chyfrannu at economi'r dref sy'n tyfu.

Hefyd, mae murlun wedi'i baentio yn y Neuadd Goffa gan yr artist o Sir Gaerfyrddin, Steve Jenkins. Mae'r murlun, sy'n tynnu ysbrydoliaeth o hanes cyfoethog Talacharn, yn borth bywiog a chroesawgar i'r dref, gan gyfrannu at ei swyn a'i apêl weledol gyffredinol. Mae'r gwaith celf eisoes wedi cael croeso cynnes gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Fel rhan o'r ymdrechion adfywio parhaus, mae perchnogion busnes lleol yn Nhalacharn wedi cael eu cefnogi drwy gronfa grant bwrpasol gyda'r nod o wella ymddangosiad allanol eu heiddo. Mae dau fusnes y stryd fawr yn y dref wedi cael cyllid eisoes i wella ymddangosiad eu hadeiladau, gan gyfrannu at fywiogrwydd cyffredinol y dref a'i gwneud yn fwy deniadol. Gan fod y Gronfa Adfywio Canol Trefi Gwledig wedi ailagor yn ddiweddar, mae gan fusnesau yn Nhalacharn gyfle i wneud cais am gymorth. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Y Deg Tref - Cyngor Sir Caerfyrddin

Yn ogystal, mae gwaith gwella ar raddfa fach wedi'i wneud i gynnal swyn y dref a gwella'i hymddangosiad cyffredinol. Bydd y gwelliannau diweddar yn helpu Talacharn i gynnal ei chymeriad hanesyddol yn ogystal â darparu amgylchedd mwy deniadol i breswylwyr a thwristiaid.

Mae tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Gwledig Cyngor Sir Caerfyrddin, Hwb Bach y Wlad, yn ymweld â lleoliadau gwledig ar draws y Sir i gynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor. Gall ymgynghorwyr profiadol Hwb helpu preswylwyr Sir Gaerfyrddin gyda'u hymholiadau Cyngor a darparu bagiau gwastraff ac ailgylchu yn ogystal ag eitemau Tlodi Mislif. Ochr yn ochr â hyn, gall ymgynghorwyr gyfeirio preswylwyr at adrannau a sefydliadau perthnasol y Cyngor a all gynorthwyo ymhellach gyda'u hymholiadau. 

Bydd Hwb Bach y Wlad yn Neuadd Goffa Talacharn ar yr 2il ddydd Mercher o bob mis, 10am-3pm. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan. https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/hwb-bach-y-wlad/

Bydd y sioe deithiol Twristiaeth a Busnes nesaf yn mynd i Neuadd Goffa Talacharn ddydd Mercher 9 Ebrill gan roi cyfle i fusnesau a grwpiau cymunedol gwrdd â swyddogion y Cyngor Sir. Bydd cyngor ar gael ar bob agwedd ar y sector twristiaeth a busnes; gan gynnwys trwyddedu, cynllunio, opsiynau ariannu, grantiau sydd ar gael ar hyn o bryd i fusnesau, yn ogystal â chymorth marchnata.

Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:

Mae'n hyfryd gweld y trawsnewidiadau cadarnhaol sy'n digwydd yn Nhalacharn yn sgil y Rhaglen Deg Dref a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Mae'r prosiectau hyn yn dod â chyfleoedd newydd i fusnesau lleol ac yn gwella apêl y dref i ymwelwyr. Rwy'n falch iawn o weld y cynnydd rydyn ni wedi'i wneud ac yn annog pawb i ddod i weld y gwelliannau drostynt eu hunain.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect 10 Tref, ewch i'r wefan.