Dechrau ar waith ymchwiliol i benderfynu ar addasrwydd safle ar gyfer adeilad newydd Ysgol Gymraeg Dewi Sant
30 diwrnod yn ôl
(Datganiad ar y cyd rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Dewi Sant)
Fel rhan o broses Rhaglen Moderneiddio Addysg yr Awdurdod Lleol i sicrhau safle addas ar gyfer adeilad ysgol newydd i Ysgol Gymraeg Dewi Sant, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystyried y dichonoldeb o ddefnyddio Safle Canolfan Hamdden Llanelli, a fydd yn gadael y safle ar ôl cwblhau Cam 1 Datblygiad Pentre Awel.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg - Y Cynghorydd Glynog Davies:
Yn ôl yr hyn sy'n garreg filltir allweddol wrth sicrhau darpariaeth Addysg Gynradd Cyfrwng Cymraeg yn Llanelli ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, bydd yr Awdurdod Lleol cyn hir yn dechrau ar waith ymchwiliol ar safle Canolfan Hamdden Llanelli i bennu ei addasrwydd, bydd hyn yn cynnwys datblygu'r cynnig i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Dewi Sant ar safle Canolfan Hamdden Llanelli hyd at y Cam Cynllunio Amlinellol. Bydd canlyniad y Cam Cynllunio Amlinellol yn llywio'r posibilrwydd o osod adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Dewi Sant ar Safle Canolfan Hamdden Llanelli.”
Dywedodd Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Michael Bassett:
Ers blynyddoedd bellach, rydym ni fel corff wedi disgwyl yn amyneddgar am safle pwrpasol i’n hysgol ni ac rydym yn ymwybodol iawn mai nid ein hysgol ni yn unig sy’n aros am safle pwrpasol yn y sir. Rydym wedi ymddiried yn y broses sydd wedi ei osod gan yr awdurdod o glustnodi safle pwrpasol ac yn hapus i glywed for yr awdurdod yn archwilio safle penodol yn y gobaith y bydd yn cynnig cartref newydd addas i’n hysgol ni.
Mae adroddiad diweddar gan arolygwyr Estyn yn nodi fod safonau addysgu yn yr ysgol o’r safon uchaf, a hoffwn ddiolch i holl staff yr ysgol a’r disgyblion am eu hamynedd a’u gwaith campus. Rydym yn mawr obeithio bydd yr archwiliadau cynnar yma yn galluogi’r ysgol i ddatblygu a hybu’r iaith Gymraeg yn y dref.”
Os bydd y gwaith ymchwiliol yn nodi safle Canolfan Hamdden Llanelli fel lleoliad posibl ar gyfer adeilad newydd Ysgol Gymraeg Dewi Sant, bydd achosion busnes priodol, i'w cytuno gan Lywodraeth Cymru, a phrosesau ymgynghori yn cael eu rhoi ar waith