Dathlu Diwrnod y Ddaear 2025
1 diwrnod yn ôl

I gefnogi Diwrnod y Ddaear (22 Ebrill), mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dathlu ei ymdrechion i osod systemau ynni adnewyddadwy.
Thema eleni yw Ein Pŵer, Ein Planed, sy'n tynnu sylw at fanteision ynni adnewyddadwy.
Ers gosod ei baneli solar ffotofoltäig cyntaf yn Ysgol Maes y Gwendraeth yn 2011, mae'r Cyngor wedi ehangu i 66 o brosiectau solar ffotofoltäig, gyda chyfanswm o 1,644,000 kWh yn cael ei gynhyrchu bob blwyddyn.
Mae systemau solar thermol hefyd wedi'u gosod mewn tair o'n hysgolion - Ysgol Dyffryn Aman, Ysgol Maes y Gwendraeth ac Ysgol Gynradd Tŷ-croes. Mae'r rhain yn defnyddio ymbelydredd solar i gynhesu dŵr poeth domestig, a thrwy hynny leihau'r angen am danwydd ffosil.
Mae'r Cyngor hefyd wedi gosod ffynonellau ynni adnewyddadwy yn ei ystâd ddiwydiannol, gyda Depo Trostre yn cynnal arae solar 49kW a'r Parc Gelli Werdd newydd, datblygiad carbon niwtral yn Nwyrain Cross Hands, sy'n cynnwys arae solar ffotofoltäig 62kW.
Yn ogystal, mae 125 o dai sy'n eiddo i'r Cyngor ledled y sir wedi cael paneli solar.
Mae'r ymdrechion hyn yn bosibl drwy fentrau fel fframwaith Re:Fit Cymru, lle mae'r Cyngor yn gosod systemau ynni adnewyddadwy fel rhan o ddull cyfannol o ddatgarboneiddio ein hadeiladau.
Rydym yn deall pwysigrwydd defnyddio ynni adnewyddadwy i helpu i liniaru newid yn yr hinsawdd ac, felly, mae 100% o'r trydan y mae'r Cyngor yn ei brynu yn dod o ynni adnewyddadwy yng Nghymru ac yn cael ei wirio gan dystysgrifau Gwarantau Tarddiad Ynni Adnewyddadwy (REGO). Er nad yw hyn yn gwarantu ynni glân 100% wrth ei ddefnyddio, mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i ynni adnewyddadwy ac yn cefnogi twf cynhyrchu adnewyddadwy yng Nghymru.
Fel rhan o'i strategaeth hirdymor, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddisodli'r holl ddefnydd o danwydd ffosil corfforaethol gydag ynni sy'n deillio o ffynonellau adnewyddadwy. Mae hyn yn helpu'r Cyngor i gyrraedd ei dargedau carbon sero net ac yn cyd-fynd ag uchelgais Llywodraeth Cymru am ynni adnewyddadwy 100% erbyn 2035. Mae Cynllun Ynni Ardal Leol Sir Gaerfyrddin yn amcangyfrif y gallai'r sir gynhyrchu 2,860 GWh o ynni adnewyddadwy erbyn 2050, sy'n fwy na'r galw disgwyliedig o 2,000 GWh.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Mae Diwrnod y Ddaear yn gyfle i fyfyrio ar y camau rydyn ni'n eu cymryd i greu sir lanach a mwy gwyrdd. Fel Awdurdod Lleol, rydym wedi ymrwymo i wneud newidiadau go iawn, o leihau allyriadau carbon i hyrwyddo ynni adnewyddadwy. Mae pob gweithred, mawr neu fach, yn cyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy i ni i gyd.
Gallwch gael gwybod mwy am ymdrechion cynaliadwyedd y Cyngor drwy fynd i: https://www.carmarthenshire.gov.wales/council-services/climate-change-and-biodiversity/