Busnes newydd yn ffynnu yn Llanelli

17 diwrnod yn ôl

Agorodd y grŵp o siopau adrannol teuluol, W Boyes & Co Ltd, o Scarborough y siop ddiwedd y llynedd ac mae wedi creu effaith fawr ar ganol y dref. Dyma 87ain siop Boyes yn y DU, a'r siop gyntaf un yng Nghymru! 

Sefydlwyd Boyes yn 1881 gan William Boyes yn Scarborough, y dref glan môr yn Swydd Efrog. Mae'r teulu Boyes wedi datblygu enw da am werthu amrywiaeth o nwyddau o safon am brisiau rhesymol, sef bron popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer y cartref a'r teulu, a'r cyfan oll gan ddarparu gwasanaeth cyfeillgar a hwylus. Fe welwch hanfodion bob dydd, ffasiynau ac esgidiau, nwyddau'r cartref, eitemau crefft a hobïau, cynnyrch trydanol, DIY a hamdden.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:

“Mae'n wych bod Boyes wedi dewis Llanelli ar gyfer ei siop gyntaf yng Nghymru ac wedi ymgartrefu'n barhaol yng Nghanolfan y Santes Elli. Roedd Wilko yno cyn i'r siop honno gael ei chau, felly mae'n wych gweld y blaen siop trawiadol hwn yn cael ei ddefnyddio unwaith eto ac yn croesawu ymwelwyr a siopwyr. Rwy'n gobeithio bydd y siop yn mynd o nerth i nerth.”