Y Cyngor yn gofyn am farn ar weledigaeth ar gyfer Cyfnewidfa Deithio Llanelli
2 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn casglu barn ar gynlluniau i drawsnewid tir i'r de o Orsaf Reilffordd Llanelli i greu man ar gyfer bysiau, cerdded, beicio, cerbydau trydan a chyfleusterau parcio.
Mae cynlluniau drafft wedi'u llunio, a chaiff trigolion a busnesau eu hannog i ddweud eu dweud cyn i gynlluniau gael eu datblygu ymhellach a'u cyflwyno ar gyfer caniatâd cynllunio.
Gall preswylwyr weld y cynlluniau drafft a dweud eu dweud mewn sesiynau galw heibio:
Ddydd Iau 27 Mawrth yng Nghanolfan Antioch, Heol Copperworks, Llanelli SA15 2NE, 10am-7pm
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Gwener 18 Ebrill.
Datblygwyd y cynllun arfaethedig gan Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru i hyrwyddo'r defnydd o drafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer teithiau i Lanelli ac o amgylch Llanelli. Mae'n annog bysiau, a thacsis i deithio'n hwylus drwy'r safle a hynny ar system unffordd, gyda mynediad i gerbydau o Heol Copperworks ac allanfa ar wahân i Heol yr Orsaf.
Bydd mynediad teithio llesol i'r orsaf ar hyd Heol yr Orsaf, Heol Copperworks, Teras Great Western yn ogystal â chysylltiadau â maes parcio Swyddfa'r Post.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Rydym yn chwilio am adborth i helpu i lunio cynlluniau ar gyfer Cyfnewidfa Deithio Llanelli i sicrhau ein bod yn darparu ateb priodol sy'n gwella mynediad at gyfleoedd trafnidiaeth mwy cynaliadwy i gefnogi Llanelli i'r dyfodol."
Gweler yr ymgynghoriad ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.