Y Cyngor yn erlyn bridwyr cŵn heb drwydded
47 diwrnod yn ôl

Mae tri bridiwr cŵn heb drwydded wedi cael eu herlyn gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Cafwyd Donna Edwards, William Edwards ac Elysia Jones o Fyngalo Gelligaeros, Cwm-ffrwd yn euog o weithgarwch bridio cŵn heb drwydded yn Llys y Goron Abertawe ar 10 Chwefror 2025.
Roedd Donna Edwards a'i phartner, Mark Thomas, wedi bod yn ddeiliaid trwydded lletya cŵn yn Gelligaeros ers blynyddoedd lawer cyn penderfynu rhoi'r gorau i letya cŵn a defnyddio'u cynelau lletya fel cynelau bridio ym mis Hydref 2020.
Roedd Donna Edwards wedi hysbysu'r Cyngor bod 19 o gŵn yn cael eu cadw yn yr eiddo. Er bod y Cyngor wedi gwneud ymholiadau ynghylch trwydded bridio cŵn ar sawl achlysur ac wedi rhoi rhybuddion am fridio heb drwydded, ni ddaeth cais am drwydded bridio byth i law gan y diffynyddion.
Ym mis Ebrill 2021, cysylltodd Pets4homes â Chyngor Sir Caerfyrddin i ddweud eu bod wedi blocio tri chyfrif yn enwau Donna Edwards, William Edwards ac Elysia Jones, a oedd i gyd yn hysbysebu bod cŵn bach ar werth ym Myngalo Gelligaeros, Cwm-ffrwd. Ar ôl gofyn am wybodaeth gan Pets4Homes am nifer y toreidiau a hysbysebwyd gan Gelligaeros, canfuwyd bod 8 torraid wedi'u hysbysebu yn Gelligaeros rhwng Mehefin 2020 a Mawrth 2021.
Ar ôl dwyn erlyniad llwyddiannus, aeth Cyngor Sir Caerfyrddin â chyfanswm o £81,509.93 oddi wrth y tri diffynnydd, drwy gyfrwng enillion troseddau.
Dedfrydwyd Donna Edwards i Orchymyn Cymunedol 12 mis a 70 awr o waith di-dâl a gorchmynnwyd iddi dalu £85 o ordal dioddefwr.
Cafodd Williams Edwards Orchymyn Cymunedol 12 mis a 50 awr o waith di-dâl a gorchmynnwyd iddo dalu £85 o ordal dioddefwr.
Cafodd Elysia Jones ei rhyddhau'n amodol am 12 mis a bydd rhaid iddi dalu £20 o ordal dioddefwr.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i dîm Iechyd Anifeiliaid y Cyngor am fynd ar drywydd yr achos hwn a dod â'r bridwyr cŵn hyn, a oedd yn gweithredu'n anghyfreithlon, gerbron llys.
Gadewch i hyn fod yn rhybudd i fridwyr cŵn eraill heb drwydded y byddwn yn dod ar eich ôl os byddwch yn parhau i anwybyddu'r gyfraith.”
I gael rhagor o wybodaeth am waith Cyngor Sir Caerfyrddin o ran gorfodi iechyd anifeiliaid, ewch i Lles Anifeiliaid - Cyngor Sir Caerfyrddin