Preswylwyr Sir Gaerfyrddin yn mynd i seremoni gydsyniad brenhinol hanesyddol

8 diwrnod yn ôl

Dathlu effaith Taliadau Uniongyrchol: Dawn Bowden, Arweinydd Llywodraeth Cymru (pellaf ar y chwith), Lesley Herbert, Derbynnydd Taliadau Uniongyrchol (canol ar y chwith), Julie, Cynorthwyydd Personol (canol ar y dde), Catherine James, Uwch-weithiwr Cymdeithasol (dde), a Mark Herbert, Derbynnydd Taliadau Uniongyrchol (canol yn y blaen).

Roedd dau o breswylwyr Sir Gaerfyrddin, Mark a Lesley, sydd wedi elwa o daliadau uniongyrchol drwy wasanaethau Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Caerfyrddin, yn westeion anrhydeddus yn Seremoni Gydsyniad Frenhinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) ddydd Llun, 24 Mawrth, ym Mharc Cathays, Caerdydd.

Mae tystiolaeth bwerus Mark a Lesley am eu profiadau cadarnhaol gyda thaliadau uniongyrchol yn Sir Gaerfyrddin wedi cael dylanwad ar ddatblygiad y ddeddfwriaeth nodedig hon. Cydnabuwyd eu cyfraniadau gan Lywodraeth Cymru, a'u gwahoddodd i fod yn dyst i'r digwyddiad hanesyddol hwn, lle rhoddodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS, y sêl yn ffurfiol i'r Llythyrau Patent, gan ddeddfu'r gyfraith newydd.

Roedd Mark a Lesley yng nghwmni eu cynorthwyydd personol, wedi'i ariannu trwy daliadau uniongyrchol, a'u uwch-weithiwr cymdeithasol, Catherine James, a oedd wedi eu cefnogi trwy gydol eu taith. Roedden nhw'n teimlo ei bod yn bwysig bod y rhai a oedd wedi chwarae rhan allweddol yn eu gofal yn bresennol i rannu'r foment.

Dywedodd Lesley:

"Roedd yn anrhydedd i ni gael ein gwahodd i'r Seremoni Gydsyniad Frenhinol a gwybod bod rhannu ein stori wedi helpu i lunio deddf a fydd yn rhoi'r un annibyniaeth a dewis i eraill ag yr ydym wedi'i gael. Mae'n galonogol gweld ein profiad yn cael ei werthfawrogi yn y modd hwn ac rydym yn falch o rannu'r seremoni gyda'r ddau unigolyn sydd mor allweddol wrth ganiatáu i ni fyw ein bywydau gorau posibl.”

Mae'r Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn cyflwyno diwygiadau sylweddol, gan gynnwys rhoi terfyn ar elw preifat mewn gofal preswyl a gofal maeth plant, gan wneud Cymru y genedl gyntaf yn y DU i ddeddfu'r newid hwn a galluogi cyflwyno taliadau uniongyrchol o fewn gofal iechyd parhaus y GIG, gan roi mwy o reolaeth i bobl anabl a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor dros eu gofal.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Jane Tremlett:

Mae taith Mark a Lesley yn pwysleisio'r effaith drawsnewidiol y gall taliadau uniongyrchol ei chael ar fywydau pobl. Mae eu profiad nid yn unig wedi helpu i lunio'r ddeddfwriaeth bwysig hon ond hefyd mae'n dyst i lwyddiant grymuso unigolion i gymryd rheolaeth o'u gofal eu hunain. Rydym yn hynod falch o'u cyfraniad a'u rôl wrth lunio dyfodol mwy disglair i eraill ledled Cymru.”