Ein Trefi Gwledig: Cross Hands
2 diwrnod yn ôl
O dan y fenter Deg Tref sy'n cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mae trefi marchnad gwledig ar draws y sir wedi cael cefnogaeth i greu prosiectau bywiog sy'n fuddiol yn economaidd. Rydym yn rhoi sylw i Cross Hands y mis hwn, gan ddangos sut mae'r dref wedi ffynnu gyda chymorth Cyngor Sir Caerfyrddin a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU [UKSPF].
Dim ond 12 milltir o Gaerfyrddin yw Cross Hands, ym mhen gogleddol Cwm Gwendraeth, mewn man unigryw rhwng cymoedd Gwendraeth Fach a Gwendraeth Fawr. Mae gan Cross Hands Neuadd Gyhoeddus eiconig, sinema Art Deco a adeiladwyd ym 1932, a oedd unwaith yn ganolfan ddiwylliannol i lowyr lleol. Heddiw, mae Cross Hands yn ardal breswyl a chyflogaeth brysur, sy'n cynnwys Parc Bwyd Cross Hands a Pharc Busnes Cross Hands. I wybod mwy am Cross Hands fel cyrchfan, ewch i Darganfod Sir Gâr.
Cefnogwyd cais Menter Cwm Gwendraeth Elli am Swyddog Ieuenctid a Chymuned yn Cross Hands, ac arweiniodd hynny at welliannau hanfodol i Festri Capel Tabor, a oedd yn segur. Ers hynny mae'r lle hwnnw wedi dod yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau ieuenctid a chymuned yn Cross Hands, yn ogystal ag i ysgolion lleol.
Mae sawl safle busnes yn Cross Hands wedi elwa ar gymorth gan y gronfa Adfywio Canol Trefi Gwledig. Mae'r gronfa hon yn rhoi cymorth i fusnesau'r stryd fawr adnewyddu, gwella, a rhoi ychydig o fywyd o'r newydd i flaen eu siopau. Derbyniodd eiddo'r stryd fawr gyllid i wella gwedd allanol eu hadeiladau, gan gyfrannu at wella golwg y dref a'i bwrlwm. Os oes gennych fusnes yn Cross Hands ac os oes diddordeb gennych mewn dysgu mwy am y cynnig hwn, cysylltwch â ni yn RDPSIRGAR@sirgar.gov.uk i gael rhagor o fanylion ar sut gallai eich busnes fod yn gymwys i gael cymorth.
Yn ogystal, mae Cronfa Datblygu Cyfalaf y Deg Tref ar gael ar hyn o bryd i gefnogi troi safleoedd gwag sy'n mynd â'u pen iddynt yn fannau masnachu. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan.
Hefyd, bellach mae murlun yn Cross Hands a baentiwyd gan yr artist o Sir Gaerfyrddin, Steve Jenkins, sy'n rhoi rhywfaint yn rhagor o liw i'r dref. Ysbrydolwyd Jenks Art gan hanes y dref o ran y diwydiant glo i greu darn celf trawiadol ar 'Squire and Lane Hairdressers' ar Heol Llandeilo.
Yn ogystal, mae plant o Ysgol Cross Hands wedi bod yn defnyddio gwastraff i greu darn o waith celf. Mae'r plant wedi bod wrthi'n casglu cynhyrchion gwastraff ac yn dylunio darn o gelf sy'n portreadu ardal Cross Hands.
Heol Llandeilo oedd canolbwynt y prosiect Mynd i'r Afael â Threfi yn Cross Hands. Mae wyneb newydd wedi'i osod ar y palmentydd ar ran isaf Heol Llandeilo, a oedd mewn cyflwr gwael. Hefyd cafodd y ddau arhosfan bysiau ar y ddwy ochr eu gwella er mwyn
rhoi mynediad i ddefnyddwyr anabl, gyda chysgodfannau bysiau newydd a phlannu ar raddfa fach.
Nod menter newydd a gefnogir gan y Gronfa Cymunedau Cynaliadwy yw darparu cefnogaeth gymunedol hanfodol i rieni a gofalwyr pobl ifanc sy'n byw gydag awtistiaeth. Bydd y prosiect, dan arweiniad Carmarthen and Cross Hands Autistic Mams Association (CCAMA), yn canolbwyntio ar gynnig gweithgareddau amlsynhwyraidd a theithiau i leoliadau lleol, gan greu gofod lle gall teuluoedd dreulio amser yng nghwmni ei gilydd a rhyngweithio'n ystyrlon. Bydd gweithwyr proffesiynol arbenigol hefyd yn rhan o'r prosiect i roi cyngor, rhannu gwybodaeth berthnasol, a helpu i gyfeirio teuluoedd i'r adnoddau a'r darpariaethau eraill sydd ar gael iddynt.
Mae cyllid Arfor hefyd wedi helpu busnes yn Cross Hands i greu swyddi newydd a chanolbwyntio ar y Gymraeg mewn busnes. Cafodd Peiriannau Gardd Jenkins gyllid fel bod y busnes yn gallu cynnig gwasanaethau newydd, yn ogystal â datblygu defnydd pellach o'r Gymraeg yn eu gwaith.
Mae tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Gwledig Cyngor Sir Caerfyrddin, Hwb Bach y Wlad, yn ymweld â lleoliadau gwledig ar draws y Sir i gynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor. Gall ymgynghorwyr profiadol Hwb helpu preswylwyr Sir Gaerfyrddin gyda'u hymholiadau Cyngor a darparu bagiau gwastraff ac ailgylchu yn ogystal ag eitemau Tlodi Mislif. Ochr yn ochr â hyn, gall ymgynghorwyr gyfeirio preswylwyr at adrannau perthnasol y Cyngor a sefydliadau a all gynorthwyo ymhellach gyda'u hymholiadau.
Bydd Hwb Bach y Wlad yn dod i Glwb a Sefydliad y Gweithwyr Cross Hands ar y dydd Gwener 1af a’r 3ydd dydd Gwener bob mis, rhwng 10:30am- 3pm. Am ragor o wybodaeth, ewch i’r wefan.
Bydd y sioe deithiol Twristiaeth a Busnes nesaf yn dod i Glwb a Sefydliad y Gweithwyr Cross Hands ddydd Gwener 21 Mawrth gan roi cyfle i fusnesau a grwpiau cymunedol gwrdd â swyddogion y Cyngor Sir. Bydd cyngor ar gael ar bob agwedd ar y sector twristiaeth a busnes; gan gynnwys trwyddedu, cynllunio, opsiynau ariannu, grantiau sydd ar gael ar hyn o bryd i fusnesau, yn ogystal â chymorth marchnata.
Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:
Mae Cross Hands yn parhau i ffynnu diolch i gefnogaeth y fenter Deg Tref, Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, ac Arfor. Mae'r dref yn enghraifft wych o sut gall buddsoddiad strategol adfywio cymunedau gwledig a rhoi hwb i fusnesau lleol. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut fydd y prosiectau hyn yn parhau i ysgogi twf economaidd a chefnogi'r gymuned.
I gael rhagor o wybodaeth am brosiect y 10 Tref, ewch i'r wefan.