Digwyddiad “Cwrdd â'ch Atyniad i Ymwelwyr” Sir Gâr yn cryfhau cysylltiadau o fewn sector twristiaeth y sir
18 diwrnod yn ôl

Dymuna tîm Tristiaeth Cyngor Sir Gâr ddiolch i’r 65 o ddarparwyr llety lleol a’r 23 o atyniadau i ymwelwyr a fynychodd Digwyddiad Cwrdd â’ch Atyniad i Ymwelwyr yng nghanol tref Caerfyrddin ddydd Mercher, 5 Mawrth 2025. I’r
Fe wnaeth yDigwyddiad Cwrdd â'ch Atyniad i Ymwelwyr Sir Gâr ddwyn ynghyd ddarparwyr llety a rhai o'r prif atyniadau i ymwelwyr yn y sir. Roedd y digwyddiad cyffrous hwn yn gyfle unigryw i fusnesau ehangu eu rhwydweithiau, creu partneriaethau newydd, a rhoi hwb i'w harchebion ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyfarfodydd un i un 15 munud o hyd rhwng darparwyr llety ac atyniadau, gan sicrhau bod busnesau yn cael amser pwrpasol i drafod partneriaethau posibl, rhannu syniadau, ac ystyried cyfleoedd newydd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Caniataodd y digwyddiadi atyniadau ddangos yr hyn maent yn ei gynnig, gan helpu busnesau i feithrin perthnasoedd cryfach, a gwella'r cynnig twristiaeth ledled Sir Gâr ac i'n hymwelwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Diolch i'r holl ddarparwyr llety ac atyniadau ymwelwyr yn Sir Gaerfyrddin a fynychodd y digwyddiad hwn. Mae’r adborth a dderbyniwyd wedi bod yn aruthrol gyda busnesau a fynychodd yn gofyn i swyddogion drefnu digwyddiad arall yn yr Hydref, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at hynny.
Mae twristiaeth yn hanfodol i economi Sir Gaerfyrddin ac yn y cyfnod heriol hwn, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n dod ynghyd i gefnogi ein gilydd.
Mae'r digwyddiad hwn yn llwyfan hanfodol nid yn unig i fusnesau twristiaeth ddangos yr hyn maent yn ei gynnig ond hefyd clywed am gyfleoedd newydd i gydweithio.”