Cyngor yn ymuno â sefydliadau ledled Cymru i lofnodi Siarter ar gyfer Teuluoedd sydd wedi Dioddef Profedigaeth drwy Drasiedi Gyhoeddus
6 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Gâr wedi ymuno â sefydliadau ledled Cymru i lofnodi siarter sy'n golygu eu bod yn ymrwymo i ymateb i drasiedïau cyhoeddus mewn ffordd agored, dryloyw ac atebol.
Mae'r Siarter ar gyfer Teuluoedd sydd wedi Dioddef Profedigaeth drwy Drasiedi Gyhoeddus yn galw am newid diwylliannol yn y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn ymgysylltu â theuluoedd mewn profedigaeth, gan sicrhau bod y gwersi o drychineb Hillsborough 1989 a'r hyn a ddigwyddodd wedi hynny yn cael eu dysgu er mwyn atal pobl rhag cael yr un profiad yn y dyfodol.
Mae sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, heddluoedd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a gwasanaethau tân ac achub wedi ymrwymo i gynnig cymorth i deuluoedd sy'n dioddef profedigaeth a'r gymuned ar ôl digwyddiad mawr, gydag ymrwymiad clir i bobl ac i ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad.
Caiff digwyddiad lansio ei gynnal ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth (18 Mawrth) ac yn bresennol yn y digwyddiad fydd yr Esgob James Jones KBE a ysgrifennodd y siarter fel rhan o'i adroddiad ar y gwersi i'w dysgu o drasiedi Hillsborough. Yn y digwyddiad hefyd fydd goroeswyr a phobl sydd wedi dioddef profedigaeth drwy drasiedïau cyhoeddus, gan gynnwys Hillsborough, Tŵr Grenfell, Arena Manceinion ac Aberfan, sydd ond dafliad carreg i ffwrdd o leoliad y lansiad.
Dywedodd yr Esgob Jones:
“Heddiw, mae Cymru yn arwain y ffordd gyda mwy na 50 o'i chyrff cyhoeddus yn llofnodi'r siarter. Wrth wneud hynny, mae diwylliant y sefydliadau wedi dechrau newid ac mae ymrwymiad o'r newydd i wasanaeth cyhoeddus ac i barchu dynoliaeth y rhai rydym yn cael ein galw i wasanaethu.
“Mae'r siarter yn cynrychioli addewid na chaiff unrhyw un ei gadael i lywio'i daith galaru a goroesi ar ei ben ei hun. Ni fydd neb yn dioddef 'tueddfryd nawddoglyd pŵer anesboniadwy' eto.
“Mae hyn yn foment allweddol ym mywyd y genedl wrth i ni groesawu egwyddorion y siarter ac addo parchu dynoliaeth pob un o'i dinasyddion a ddylai fod wrth galon pob gwasanaeth cyhoeddus.”
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Gâr:
“Mae gonestrwydd, didwylledd a thryloywder yn rhinweddau sy'n hanfodol i bob llywodraeth ddemocrataidd weithio'n effeithiol ar ran ei phobl. Trwy lofnodi'r Siarter ar gyfer Teuluoedd sydd wedi dioddef Profedigaeth yn sgil Trasiedi Gyhoeddus, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn atgyfnerthu ei ymrwymiad i'w werthoedd craidd, sy'n cynnwys gweithio i wella bywydau pobl yn ein cymuned, cymryd cyfrifoldeb, gwneud y peth iawn a cheisio gwella drwy'r amser.”
Dywedodd Dawn Docx, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a chadeirydd y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys yng Nghymru:
“Rydym yn cydnabod bod cydweithio wrth gefnogi teuluoedd y mae trasiedi gyhoeddus wedi effeithio arnynt yn hanfodol er mwyn sicrhau llesiant a gwydnwch ein cymunedau.
“Drwy gydweithio, gallwn ddefnyddio ein harbenigedd a'n hadnoddau cyfunol i roi cymorth ystyrlon i'r rhai mewn angen yn ystod argyfwng a thu hwnt.”
Ychwanegodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Mark Travis:
"Drwy lofnodi'r siarter, mae pob sefydliad yn gwneud datganiad cyhoeddus i ddysgu'r gwersi o drychineb Hillsborough a thrasiedïau eraill i sicrhau nad ydym byth yn anghofio am bersbectif teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth ac i sicrhau eu bod yn cael eu trin â gofal a thosturi, nid yn unig yn ystod yr argyfwng a'r drasiedi ond yn ystod yr wythnosau, y misoedd a'r blynyddoedd sy'n dilyn.
"Er bod heddiw yn garreg filltir, yr her wirioneddol yw ymgorffori'r siarter yn ein hyfforddiant a'n diwylliant i sicrhau ei bod yn dod yn rhan annatod o'n hymateb i drasiedi gyhoeddus.
"Mae cyfraniad goroeswyr a phobl sydd wedi dioddef profedigaeth drwy drasiedïau cyhoeddus wedi bod yn hollbwysig i'r cam pwysig ymlaen rydym yn ei gymryd heddiw."