Cymorthfeydd Caffael a Busnes Sir Gaerfyrddin 2025
13 diwrnod yn ôl

Mae busnesau sy'n dymuno cyflenwi eu nwyddau, eu gwaith a'u gwasanaethau i Gyngor Sir Caerfyrddin yn cael eu hannog i fynd i Gymorthfeydd Caffael a Busnes yn ystod y misoedd nesaf.
Wedi'u cynnal gan yr Awdurdod Lleol, bydd swyddogion Datblygu Economaidd a Chaffael wrth law i gynnig gwybodaeth am ystod o bynciau fel cyfleoedd masnachu, cymorth busnes a chyllid grant yn awr ac yn y dyfodol. Mae'r digwyddiad wedi'i anelu at fentrau bach a chanolig a sefydliadau'r Trydydd Sector.
Bydd Cymorthfeydd Caffael a Busnes yn cael eu cynnal yn y mannau canlynol:
- Y Goleudy, Llanelli, SA14 8LQ - 10 Mawrth 2025
- Planed, Canolfan Byw'n Dda Sir Gaerfyrddin, Parc Dewi Sant, SA31 3HB - 9 Mai 2025
- Hwb Rhydaman, 41 Stryd y Cei, Rhydaman, SA18 3BS - 8 Gorffennaf 2025
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:
Byddwn yn awgrymu y dylai unrhyw fusnesau bach a chanolig a sefydliadau trydydd sector ddod i'r cymorthfeydd hyn i gael cyngor gan ein swyddogion ymarferol. Byddwn hefyd yn annog busnesau lleol i wneud cais am y cyfle i gyflenwi nwyddau, gwaith a gwasanaethau i'r Awdurdod Lleol.
I drefnu apwyntiad 30 munud, anfonwch e-bost at fewnflwch Caffael Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin:
CRProcurement@sirgar.gov.uk
Mae'r digwyddiadau hyn wedi'u hariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.