Cydnabod effaith gweithwyr cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin
10 diwrnod yn ôl

Ar Ddiwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd (18 Mawrth) eleni, mae Maethu Cymru Sir Gâr yn tynnu sylw at ymroddiad gweithwyr cymdeithasol sy'n gwneud gwahaniaeth mawr ym mywydau plant, pobl ifanc, teuluoedd a gofalwyr maeth yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r gweithwyr cymdeithasol hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod plant a phobl ifanc mewn gofal maeth yn cael y gefnogaeth a'r sefydlogrwydd sydd eu hangen arnynt a helpu gofalwyr maeth i ddarparu cartrefi diogel a meithringar.
Mae Jacky, gofalwr maeth ymroddedig yn Sir Gaerfyrddin, wedi bod yn maethu ers 17 mlynedd ac mae'n gwybod yn bersonol pa mor bwysig y gall y gefnogaeth gywir fod. Mae Jacky wedi cael cefnogaeth gan ei gweithiwr cymdeithasol, Kevin, am y chwe blynedd diwethaf, ac yn ôl Jacky, ef sydd wedi rhoi'r hyder a'r sicrwydd sydd eu hangen arni.
Mae Kevin wedi bod yn wych ac mae bob amser yn gefnogol iawn. Mae bob amser ar ben arall y ffôn i drafod unrhyw beth gyda fi pan fydd angen. Mae gwybod bod gen i'r lefel honno o gefnogaeth wedi gwneud cymaint o wahaniaeth.”
Dywedodd Kevin, sydd wedi gweithio fel gweithiwr cymdeithasol maethu ers sawl blwyddyn:
Des i'n weithiwr cymdeithasol oherwydd roeddwn i eisiau helpu pobl a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned lle rwy'n byw. Mae gweithio gyda gofalwyr maeth fel Jacky wedi cadarnhau fy nghred bod unigolion yn gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd rhywun arall. Does gen i ddim byd ond edmygedd tuag at ein gofalwyr maeth sy'n agor eu cartrefi a'u calonnau i blant a phobl ifanc sydd angen cariad a sefydlogrwydd.”
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, a Phlant a Theuluoedd:
Gweithwyr cymdeithasol yw asgwrn cefn ein cymuned faethu, ac rydyn ni'n cydnabod gwaith anhygoel yr holl weithwyr cymdeithasol sy'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc bob dydd. Mae eu hymroddiad a'u hymrwymiad yn sicrhau bod gofalwyr maeth yn cael yr arweiniad a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i ddarparu cartrefi sefydlog. Mae'r berthynas rhwng Kevin a Jacky yn enghraifft berffaith o ba mor werthfawr yw'r gefnogaeth hon.”
Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin amrywiaeth o gyfleoedd gwaith cymdeithasol i'r rhai sy'n dymuno gwneud gwahaniaeth. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Swyddi a Gyrfaoedd Sir Gaerfyrddin.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn ofalwr maeth fel Jacky, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr neu cysylltwch â ni heddiw.