Coroni Parc Gwledig Pen-bre yn Safle Gwersylla Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth De-orllewin Cymru

1 diwrnod yn ôl

Mae Parc Gwledig Pen-bre, un o atyniadau ymwelwyr Cyngor Sir Caerfyrddin, yn falch o gyhoeddi ei lwyddiant diweddar wrth iddo ennill Gwobr y Safle Gwersylla Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth De-orllewin Cymru.  Mae'r wobr fawreddog hon yn tynnu sylw at ymroddiad y parc i ddarparu cyfleusterau eithriadol, gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, a phrofiad awyr agored bythgofiadwy i ymwelwyr.

Yng nghanol 500 erw o barcdir godidog ac yn cynnig 8 milltir o draethau tywodlyd euraidd, mae Parc Gwledig Pen-bre yn cynnig cyfuniad unigryw o harddwch naturiol ac amwynderau modern. Mae'r wobr yn cydnabod ymrwymiad parhaus y parc i ragoriaeth, cynaliadwyedd a darparu profiadau cofiadwy i deuluoedd, anturiaethwyr a'r rhai sy'n dwlu ar fyd natur fel ei gilydd.

O ganlyniad i'r cyflawniad gwych hwn, bydd Parc Gwledig Pen-bre bellach yn cynrychioli'r rhanbarth yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru ar 27 Mawrth 2025. Bydd y llwyfan cenedlaethol hwn yn arddangos y gorau ym maes twristiaeth yng Nghymru, ac mae'r tîm ym Mharc Gwledig Pen-bre yn edrych ymlaen at rannu eu stori a'u hangerdd am letygarwch ar raddfa ehangach.

Yn 2025, yn sgil derbyn cyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, bydd y safle gwersylla yn cyflwyno lleiniau talu wrth ddefnyddio i gyd-fynd â'r targedau a osodwyd gan yr agenda werdd. Hefyd, bydd bloc amwynderau newydd yn cael ei adeiladu i gymryd lle'r cyfleuster gwreiddiol o'r adeg yr agorwyd y safle gwersylla gyntaf.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Dwristiaeth, ei bod wrth ei bodd â'r gydnabyddiaeth: 

Mae'r wobr hon yn dyst i waith caled, angerdd ac ymroddiad ein tîm cyfan ym Mharc Gwledig Pen-bre. Rydym yn hynod falch o dderbyn yr anrhydedd hon ac yn edrych ymlaen at gynrychioli de-orllewin Cymru yn y gwobrau cenedlaethol."

Mae'r parc yn gwahodd ymwelwyr, rhai hen a newydd, i brofi'r swyn a'r rhagoriaeth a arweiniodd at ennill y wobr hon. Gyda datblygiadau cyffrous ar y gorwel, gan gynnwys uwchraddio cyfleusterau ac ehangu'r hyn a gynigir, mae Parc Gwledig Pen-bre yn parhau i osod y safon ar gyfer hamdden awyr agored a gwersylla yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu eich ymweliad nesaf, ewch i: www.parcgwledigpenbre.cymru