Cau Pwll Nofio Canolfan Hamdden Caerfyrddin ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol

5 diwrnod yn ôl

Yn sgil pryderon diogelwch ynghylch nifer cynyddol o deils wyneb yn dod yn rhydd yn y prif bwll nofio a'r pwll dysgwyr yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud y penderfyniad angenrheidiol i gau'r ddau bwll o 14 Ebrill 2025 er mwyn gwneud gwaith atgyweirio hanfodol. Disgwylir i'r gwaith atgyweirio gymryd tua 3 mis i'w gwblhau.

Mae rhestr o Gwestiynau Cyffredin wedi'i chyhoeddi ar wefan Actif y Cyngor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau a defnyddwyr. Pwll Nofio yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin yn cau er mwyn gwneud gwaith atgyweirio hanfodol - Actif

Nid oes byth amser cyfleus i wneud gwaith fel hyn yn anffodus; fodd bynnag, mae'r risg gynyddol wedi golygu bod rhaid gwneud y gwaith hwn yn gynharach er mwyn ei gwblhau cyn gynted â phosibl.  

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn deall y bydd hyn yn newyddion siomedig, ond mae'r penderfyniad anodd hwn wedi'i wneud i sicrhau bod ein cyfleusterau yn ddiogel ac o safon uchel i'n holl ddefnyddwyr yn y tymor hir.

Er bod y Cyngor Sir wedi cadw'r pyllau'n ddiogel trwy atgyweirio teils a gosod matiau pwll dros y misoedd diwethaf, bellach mae angen ail-leinio'r ddau bwll yn llawn. Yn ystod y cyfnod hwn pryd y bydd y pyllau ar gau byddwn hefyd yn gwneud gwelliannau ychwanegol i wella profiad nofio ein cwsmeriaid.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Rydym ni'n deall y bydd gan lawer o gwsmeriaid gwestiynau am sut y bydd hyn yn effeithio ar eu hymweliadau â'r ystafell iechyd, gwersi nofio, mynediad i glybiau nofio, a'u sesiynau nofio fel rhan o'u haelodaeth. Rwy' am ddiolch iddyn nhw am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.

“Mae'r Cyngor eisoes wedi dechrau cysylltu â gwahanol randdeiliaid a defnyddwyr i roi gwybodaeth fwy penodol, a bydd yn parhau i wneud hynny yn y dyddiau nesaf, er mwyn sicrhau cyn lleied o darfu ag sy'n bosib a chynnig opsiynau eraill i ddefnyddwyr ac aelodau lle bo modd.”

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wrthi'n cwblhau'r trefniadau, a bydd yn rhannu â chwsmeriaid y cynnydd sy'n digwydd ac yn cyfathrebu'n benodol â nhw tra bydd y pwll ar gau, yn ogystal â diweddaru ei dudalen Cwestiynau Cyffredin.