Cannoedd o bobl eisoes yn helpu i lywio dyfodol trafnidiaeth ranbarthol
1 diwrnod yn ôl
Derbyniwyd dros 660 o ymatebion eisoes a fydd yn helpu i lywio gweledigaeth newydd gyffrous ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth mwy dibynadwy, cysylltiedig a hygyrch yn Ne-orllewin Cymru.
Mae adborth am y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft - sy'n cynnwys Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe - ar gael yma hyd at ganol nos, nos Sul 6 Ebrill.
Mae'r cynllun, sy'n helpu i gefnogi cyflwyniad rheilffordd a system metro bysus yn Ne-orllewin Cymru, hefyd yn bwriadu sicrhau bod trafnidiaeth yn y dyfodol yn fforddiadwy ac yn gyfleus er mwyn creu mwy o opsiynau i bobl leol.
Daw'r cynllun cyn Bil Gwasanaeth Bysiau Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o wella gwasanaethau bysus yng Nghymru, naill ai drwy roi mwy o reolaeth i awdurdodau lleol drostynt neu drwy alluogi awdurdodau lleol i gynnal y gwasanaethau.
Yn ogystal ag adborth ar-lein ar y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft, cynhelir digwyddiadau wyneb yn wyneb yn ardaloedd Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.
Mae'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft bellach yn cynnwys mentrau a phrosiectau y bwriedir eu rhoi ar waith rhwng 2025 a 2030.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru,
Mae trafnidiaeth yn chwarae rôl hollbwysig mewn bywydau pawb yn Ne-orllewin Cymru, boed a ydych yn cerdded, yn defnyddio cadair olwyn, yn beicio, yn mynd ar y bws neu'r trên, neu'n gyrru.
Dyna'r rheswm pam rydym yn gwahodd preswylwyr a busnesau i rannu eu barn ynghylch y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft oherwydd bod adborth yn hanfodol wrth lywio'r fersiwn derfynol.
Mae trafnidiaeth yn golygu mwy na theithio o un lleoliad i'r llall - mae'n hanfodol ar gyfer bywiogrwydd ein cymunedau. Mae'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft yn mynd i'r afael â phroblemau sylweddol fel newid yn yr hinsawdd a fforddiadwyedd wrth ddangos ein hymrwymiad i wella cysylltedd."
Meddai'r Cynghorydd Darren Price, Cadeirydd Is-bwyllgor Trafnidiaeth y Cyd-bwyllgor Corfforedig:
Mae mewnbwn oddi wrth bobl ar draws Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe wedi chwarae rôl hanfodol wrth lywio'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol hyd yn hyd, ac rydym yn bwriadu parhau â hyn.
Mae ein system drafnidiaeth wedi'i dylunio i wasanaethu anghenion ein preswylwyr a'n busnesau, felly mae'n hanfodol ein bod yn casglu cymaint o wybodaeth â phosib yn ystod y cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft.
Rydym yn bwriadu creu system drafnidiaeth yn Ne-orllewin Cymru sy'n mynd i'r afael ag anghenion presennol ond sydd hefyd yn paratoi ar gyfer heriau yn y dyfodol drwy hyrwyddo hygyrchedd, cynaliadwyedd a thwf economaidd."
Mae'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft yn cyd-fynd â Strategaeth Trafnidiaeth Cymru Llywodraeth Cymru drwy ganolbwyntio ar leihau dibyniaeth ar gerbydau preifat, cynyddu'r defnydd o gludiant cyhoeddus, ac annog mwy o gerdded a beicio.
Caiff pob barn sy'n cael ei derbyn yn ystod y rownd ymgynghori bresennol ei hystyried cyn bod fersiwn derfynol y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol yn mynd gerbron Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru i'w chymeradwyo.
Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn cynnwys Arweinwyr Cyngor Sir Gâr, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, yn ogystal ag uwch-gynrychiolwyr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro.