Asesiad o Gymeriad y Dirwedd ar gyfer Sir Gaerfyrddin wedi'i gymeradwyo ar gyfer ymgynghori gan y Cabinet
2 diwrnod yn ôl
Heddiw, 31 Mawrth 2025, mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo Canllawiau Cynllunio Atodol drafft, sef Asesiad o Gymeriad y Dirwedd ar gyfer Sir Gaerfyrddin, ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.
Bydd yr ymgynghoriad yn para am o leiaf 6 wythnos a bydd yn rhoi cyfle i breswylwyr wneud sylwadau ar ei gynnwys.
Mae'r Asesiad o Gymeriad y Dirwedd, am y tro cyntaf, yn nodi pwysigrwydd a rhinweddau arbennig pob tirwedd ledled Sir Gaerfyrddin. Bydd yr Asesiad, ar ôl ei fabwysiadu, yn cefnogi'r defnydd o bolisïau Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2018-2033 sy'n dod i'r amlwg wrth geisio adnabod, diogelu a gwella nodweddion a sensitifrwydd gweledol tirweddau o ansawdd uchel yn y Sir yn ogystal â phwysigrwydd ein hamgylcheddau hanesyddol adeiledig a naturiol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio - y Cynghorydd Carys Jones:
Drwy'r Asesiad o Gymeriad y Dirwedd, ein bwriad fel Cyngor Sir yw gwarchod a gwella tirweddau a morweddau amrywiol a gwahanol Sir Gaerfyrddin a diogelu ein tirweddau gwerthfawr rhag datblygiadau amhriodol.
Gall Tirwedd Werthfawr fod yn berthnasol i dirweddau dynodedig a thirweddau heb eu dynodi ac, yn hyn o beth, nid yw'r Asesiad o Gymeriad y Dirwedd hwn yn disodli nac yn dileu dynodiadau statudol presennol, megis Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Henebion Cofrestredig, Cofrestr Parciau a Gerddi Hanesyddol.
Ein bwriad yw y dylai datblygiadau yn y dyfodol geisio osgoi neu liniaru unrhyw effeithiau andwyol ar ein tirwedd. Gellir defnyddio'r canllawiau hyn, felly, i ystyried cymeriad y dirwedd wrth ystyried unrhyw fath o newid - boed yn y cyd-destun cynllunio neu feysydd polisi eraill fel rheoli tir, newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth a thwristiaeth.
Rwy'n annog holl breswylwyr a busnesau Sir Gaerfyrddin i ddweud eu dweud am yr ymgynghoriad sydd ar ddod er mwyn i ni ystyried eu barn ar y canllawiau atodol drafft."
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhoi gwybod am gyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft maes o law.