'Win an Architect' - Cartref Dylan Thomas yn Fuddugol

9 diwrnod yn ôl

Cyhoeddwyd mai cartref eiconig Dylan Thomas yn Nhalacharn yw enillydd menter 'Win an Architect', a drefnir gan bractis pensaernïaeth Studio Wignall & Moore.

Mae'r fenter yn chwilio am y briffiau cleient a'r cynigion pensaernïol mwyaf arloesol sy'n gwella, arddangos a dathlu diwylliant y tu allan i Lundain. Y wobr fawreddog i'r enillydd ffodus yw cysyniad dylunio gwerth hyd at £12,000, wedi'i lunio gan benseiri Siartredig RIBA Wignall & Moore.

Saif y 'Boathouse' ar glogwyn uwchlaw aber afon Taf, a dyma'r man lle trigai'r bardd byd-enwog, Dylan Thomas, yn ystod pedair blynedd olaf ei fywyd. Yma yr ysgrifennodd rai o'i weithiau pwysicaf, gan gynnwys rhannau o "Under Milk Wood." Erbyn heddiw mae'r man hwn yn rhan o CofGâr, sef gwasanaeth amgueddfeydd a chelfyddydau Cyngor Sir Caerfyrddin, gan ddenu ymwelwyr o bob cwr o'r byd.

Nod y wobr cysyniad dylunio yw gwneud y 'Boathouse' yn fwy hygyrch a gwella profiad ymwelwyr trwy ail-greu'r fynedfa, ehangu'r gofod dan do, a defnyddio potensial yr hen Harbwr.

Roedd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn frwdfrydig dros ben:

Mae ennill gwobr 'Win an Architect' yn wych i Gartref Dylan Thomas a CofGâr. Bydd y cymorth hwn yn ein helpu i wella profiad ymwelwyr tra'n cadw cymeriad unigryw'r 'Boathouse'. "

Bydd y bartneriaeth â Wignall & Moore yn para gydol 2025, gan ganolbwyntio ar welliannau cynaliadwy sy'n parchu pwysigrwydd hanesyddol y 'Boathouse' a diogelu'r man hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Cynhaliwyd gweithdy ysgrifennu creadigol am ddim gyda'r bardd a'r dramodydd ardderchog, Menna Elfyn, ar 25 Ionawr, a dyma'r cyntaf o blith cyfres o ddigwyddiadau a gweithdai i'w cynnal gydol y flwyddyn yn y 'Boathouse'.  Rhannwch eich syniadau a helpwch i lunio dyfodol y lle unigryw hwn. Trefnwch eich lle ymlaen llaw ar wefan CofGâr.