SRN yn Hybu Signal Ffôn Symudol yn Sir Gâr i 76%
9 diwrnod yn ôl

Mae'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir (SRN) wedi gwella'n sylweddol y signal ffôn symudol gan bob un o bedwar Gweithredwr Rhwydwaith Symudol y DU yn Sir Gaerfyrddin, gan ei gynyddu i 76% yn ôl data diweddaraf adroddiad Cenhedloedd Cysylltiedig 2024 Ofcom.
Ymdrech ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a'r Gweithredwyr Rhwydwaith Symudol yw SRN, a'i nod yw ymestyn signal symudol ledled ardaloedd gwledig, gan sicrhau bod mynediad i gysylltedd symudol dibynadwy gan gymunedau a busnesau. Mae'r fenter hon yn rhan o ymrwymiad ehangach i wella seilwaith digidol a phontio'r bwlch sy'n bodoli rhwng ardaloedd trefol a gwledig o ran cysylltedd.
Mae adroddiad diweddar Cenhedloedd Cysylltiedig Ofcom yn tynnu sylw at y cynnydd sylweddol a wnaed yn Sir Gaerfyrddin, lle mae signal ffôn symudol gan y pedwar gweithredwr wedi gweld gwelliant nodedig o 66% i 76%, gan roi mwy o ddewis a gwerth i gwsmeriaid. Mae'r cyflawniad hwn yn tanlinellu effeithiolrwydd y Rhwydwaith Gwledig a Rennir ers ei gyflwyno ym mis Mehefin 2024 a thrwy gyflawni ei addewid i wella cysylltedd mewn rhannau gwledig o'r DU. Mae hyn yn cyfateb i 91.5 milltir sgwâr arall o signal 4G, ac mae signal gan un Gweithredwr Rhwydwaith Symudol hefyd wedi gwella o 95% i 97%. Mae hyn yn lleihau'r ardaloedd yn y sir heb unrhyw signal o gwbl o 5% i ddim ond 3%.
Dywedodd y Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth – Y Cynghorydd Hazel Evans:
Rydym wrth ein bodd o weld effaith gadarnhaol y Rhwydwaith Gwledig a Rennir yn Sir Gaerfyrddin. Mae cynyddu'r signal ffonau symudol i 76% yn garreg filltir arwyddocaol a fydd o fudd i breswylwyr, i fusnesau ac i ymwelwyr fel ei gilydd. Mae'n dangos ein hymrwymiad i sicrhau nad yw cymunedau gwledig yn cael eu gadael ar ôl yn yr oes ddigidol."
Mae llwyddiant SRN yn Sir Gaerfyrddin yn rhan o ymdrech genedlaethol i ddarparu signal data a llais o ansawdd da i 88% o dirfas y DU erbyn Mehefin 2024 a 90% erbyn Ionawr 2027. Disgwylir i'r fenter hon ddod â manteision economaidd a chymdeithasol sylweddol i ardaloedd gwledig, wrth wella'r cysylltedd a chefnogi economïau lleol.
I gael rhagor o wybodaeth am gysylltedd symudol yn eich ardal chi, gallwch gysylltu â Hyrwyddwyr Digidol Sir Gaerfyrddin. Wedi'i ariannu gan Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae'r Hyrwyddwyr Digidol yn parhau i weithio'n agos gyda'r Gweithredwyr Rhwydwaith Symudol a'u partneriaid i sicrhau bod cymunedau gwledig yn cael y signal symudol mae ei angen arnynt i aros mewn cysylltiad.