Sir Gaerfyrddin yn Dathlu Rhagoriaeth Twristiaeth yn Neuadd y Sir
15 diwrnod yn ôl

Roedd yn bleser gan Gyngor Sir Caerfyrddin anrhydeddu enillwyr Gwobrau Twristiaeth Sir Gaerfyrddin mewn dathliad arbennig a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir heddiw.
Roedd y digwyddiad, a fynychwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Twristiaeth a Hamdden, y Cynghorydd Hazel Evans, a'r Cadeirydd, y Cynghorydd Handel Davies, yn cydnabod llwyddiannau eithriadol busnesau twristiaeth lleol.
Dathlwyd llwyddiant y busnesau canlynol am eu rhagoriaeth mewn twristiaeth a lletygarwch:
- Parc Gwledig Pen-bre - Y Ddarpariaeth Carafanau, Gwersylla neu Wârsylla Orau
- Amgueddfa Cyflymder Tir - Yr Atyniad Gorau
- Plas Glangwili - Y Gwely a Brecwast, y Dafarn a'r Gwesty Gorau
- Gwesty Plough Rhos-maen - Y gwesty Gorau, y Lle Gorau i Fwyta
- Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain - Y Gweithgaredd, y Profiad neu'r Daith Orau
- Cambrian Cottages - Y Ddarpariaeth Hunanarlwyo Orau
- Bro a Byd - Mynd yr ail filltir
- Gŵyl Lenyddol Dinefwr - Y Digwyddiad Gorau
- Strangwrach Holiday Cottage - Y Ddarpariaeth Twristiaeth Hygyrchedd a Chynhwysol
- Basel Cottage - Y Llety Gorau sy'n Croesawu Cŵn
Yn dilyn eu llwyddiant yn y Gwobrau Twristiaeth Rhanbarthol, bydd pum busnes o Sir Gaerfyrddin yn mynd ymlaen i gynrychioli rhanbarth De Orllewin Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol mawreddog Croeso Cymru, a gynhelir yn Venue Cymru yn Llandudno ar 27 Mawrth. Y busnesau fydd yn mynd ymlaen i’r llwyfan cenedlaethol yw:
- Parc Gwledig Pen-bre
- Plas Glangwili
- Gwesty'r Plough
- Cambrian Cottage
- Strangwrach Holiday Cottage
Canmolodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, yr enillwyr a’u cyfraniadau i’r economi leol:
Mae gan dwristiaeth rôl hanfodol o ran economi a chymunedau Sir Gâr. Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod ymroddiad a gwaith caled y busnesau sy'n gweithio yn y diwydiant twristiaeth. Rydym yn falch o'r llwyddiannau hyn a'r effaith gadarnhaol y mae twristiaeth yn ei chael ar ein sir. Pob lwc i’r pum busnes sydd wedi mynd drwodd i Wobrau Twristiaeth Cenedlaethol Croeso Cymru.”
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn estyn ei longyfarchiadau i’r holl enillwyr ac yn dymuno pob lwc i’r rhai sy’n cystadlu ar lefel genedlaethol.