Sir Gaerfyrddin yn cynnal digwyddiad twristiaeth mawr: “Cwrdd â'ch Atyniad i Ymwelwyr” yng nghanol tref Caerfyrddin
2 diwrnod yn ôl

Bydd tîm Twristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal digwyddiad pwysig i'r diwydiant twristiaeth ar 5 Mawrth 2025, gyda'r nod o gryfhau cysylltiadau o fewn y sector twristiaeth. Bydd Digwyddiad Cwrdd â'ch Atyniad i Ymwelwyr Sir Gaerfyrddin yn cael ei gynnal yng nghanol tref Caerfyrddin, gan ddwyn ynghyd ddarparwyr llety a rhai o'r prif atyniadau i ymwelwyr yn y sir. Mae'r digwyddiad cyffrous hwn yn gyfle unigryw i fusnesau ehangu eu rhwydweithiau, creu partneriaethau newydd, a rhoi hwb i'w harchebion ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Dyma rai o'r prif atyniadau lleol sydd wedi cadarnhau y byddant yn bresennol:
- Parc Gwledig Pen-bre
- Parc Gwledig Llyn Llech Owain
- Amgueddfa Sir Gâr
- Theatrau Sir Gâr (yn cynnwys Theatr y Ffwrnes)
- Actif Sir Gâr
- Plasty a Gerddi Parc Howard
- Amgueddfa Cyflymder Pentywyn
- Cartref Dylan Thomas
- Gerddi Aberglasne
- Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir Llanelli
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Rheilffordd Gwilli
- Rheilffordd Calon Cymru
- Plas Llanelly
- Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain
- Quiet Walks
- Hywel Dda
- Hafod Trails
Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfarfodydd un i un 15 munud o hyd rhwng darparwyr llety ac atyniadau, gan sicrhau bod busnesau yn cael amser pwrpasol i drafod partneriaethau posibl, rhannu syniadau, ac ystyried cyfleoedd newydd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Bydd y digwyddiad yn caniatáu i atyniadau ddangos yr hyn maent yn ei gynnig, gan helpu busnesau i feithrin perthnasoedd cryfach, a gwella'r cynnig twristiaeth ledled Sir Gaerfyrddin ac i'n hymwelwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae twristiaeth yn hanfodol i economi Sir Gaerfyrddin. Yn y cyfnod heriol hwn, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n dod ynghyd i gefnogi ein gilydd. Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle hanfodol i fusnesau lleol rwydweithio, cydweithio a sicrhau bod mwy o ymwelwyr yn dod i'n sir yn 2025. Drwy fod yn bresennol, gall atyniadau a darparwyr llety helpu i sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn parhau i ffynnu fel prif gyrchfan i dwristiaid, gan greu mwy o gyfleoedd ar gyfer twf a llwyddiant.
Mae'r digwyddiad hwn yn llwyfan hanfodol nid yn unig i fusnesau twristiaeth ddangos yr hyn maent yn ei gynnig ond hefyd clywed am gyfleoedd newydd i gydweithio.
Mae atyniadau yn cael eu hannog i archebu lle i gysylltu â darparwyr llety, a gall darparwyr llety drefnu amser i gwrdd a ffurfio partneriaethau gwerthfawr ag atyniadau lleol poblogaidd. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i helpu eich busnes i dyfu yn 2025!
Nawr yw'r amser i weithredu, ychwanegodd y Cynghorydd Evans.
Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, ac rydyn ni'n annog atyniadau a darparwyr llety i gofrestru heddiw. Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i greu dyfodol llewyrchus i ddiwydiant twristiaeth Sir Gaerfyrddin.
I gael rhagor o wybodaeth a chofrestru, anfonwch e-bost at twristiaeth@sirgar.gov.uk