Ein Trefi Gwledig: Llanybydder

11 diwrnod yn ôl

Fel rhan o'r rhaglen Deg Tref a ddarperir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mae trefi marchnad gwledig y Sir wedi derbyn cefnogaeth i ddatblygu prosiectau newydd cyffrous i ychwanegu bywiogrwydd a budd economaidd i'w tref. Y mis hwn, rydym yn canolbwyntio ar Lanybydder, ac yn edrych ar sut y mae'r dref wedi elwa ar gyllid trwy Gyngor Sir Caerfyrddin a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae Llanybydder ar ffin Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae'r rhan hon o'r sir yn fan cyfleus i fynd i grwydro Mynyddoedd Cambria, ardal lle daw bryniau a dyffrynnoedd godidog ynghyd. Mae tref farchnad Llanybydder wedi denu pobl i fasnachu ers cannoedd o flynyddoedd - ond efallai ei bod yn fwyaf adnabyddus am ei marchnad geffylau a gynhelir ar ddydd Iau olaf pob mis.

Yn farchnad geffylau fwyaf Ewrop yn ôl pob sôn, mae Llanybydder yn ferw o  stondinau marchnad, faniau ceffylau, a cheffylau o bob lliw a llun. Mae marchnad geffylau Llanybydder, sy'n cael ei rhedeg gan deulu lleol, yn un o’r ychydig werthiannau ceffylau misol yn y DU ac mae ei henw da yn denu ymwelwyr o bob rhan o’r wlad.

Un o’r prif bethau y mae ffocws arnynt yn Llanybydder yw ailddatblygu’r Hen Ysgol, y sbardun y tu ôl i hyn oedd gwell mynediad at wasanaethau, lle i fusnesau bach weithredu a chaffi lle gall pobl leol gyfarfod a chymdeithasu. Roedd yr adeilad eisoes yn darparu cyfleusterau ffitrwydd a llesiant i'r gymuned, ac felly roedd yn lle delfrydol i ailddatblygu.

I gefnogi canolfan yr Hen Ysgol yn ystod ei chyfnod ailddatblygu, ac i godi ymwybyddiaeth pobl leol o’r cyfleoedd a’r cyfleusterau a fydd yn cael eu cynnig yno yn y dyfodol, mae rhaglen y Deg Tref wedi ariannu Cydlynydd ar ei chyfer.

Mae'r economi gylchol yn faes blaenoriaeth ar gyfer ailddatblygu, caffi atgyweirio a gweithgareddau eraill sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac iechyd yr amgylchedd. Hyd yma, mae tair sesiwn y mis wedi eu cynnal yn yr Hen Ysgol sydd wedi mynd yn fwyfwy boblogaidd fesul sesiwn.

Trwy gronfa Ffyniant Gyffredin Adfywio Canol Trefi Gwledig, mae nifer o fusnesau yn Llanybydder wedi cael cyllid i adnewyddu eu ffasadau masnachol. Yn ogystal â chefnogi'r gwaith o adnewyddu ochr allanol adeiladau a gosod arwyddion newydd, bydd murlun celf yn cael ei greu sy'n arddangos hanes y dref a fydd yn weladwy i drigolion ac ymwelwyr. Bydd yr artist lleol, Steve Jenkins, neu Jenks Art fel y caiff ei adnabod, yn dechrau ar y gwaith celf hwn ddechrau mis Chwefror.

Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio: 

Mae’n wych gweld bod arian yn cael ei fuddsoddi yn ein trefi llai. Bydd ailddatblygu’r Hen Ysgol yn gweddu i anghenion pawb yn Llanybydder, trwy ddarparu darpariaethau cymdeithasol ac economaidd y mae wir eu hangen yn y dref. Rwy’n aros yn eiddgar i weld yr Hen Ysgol yn agor ar ei newydd wedd."
Mae tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Gwledig Cyngor Sir Caerfyrddin, Hwb Bach y Wlad, yn ymweld â lleoliadau gwledig ar draws y Sir i gynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor. Gall ymgynghorwyr Hwb profiadol helpu trigolion Sir Gaerfyrddin gyda'u hymholiadau Cyngor a darparu eitemau Tlodi Mislif, a gall ymgynghorwyr gyfeirio preswylwyr at adrannau a sefydliadau perthnasol y Cyngor a all gynorthwyo ymhellach gyda'u hymholiadau.

Bydd Hwb Bach y Wlad yng Nghlwb Rygbi Llanybydder ar ddydd Iau olaf y mis, 10am-3pm. 

Bydd Hwb Bach y Wlad yng Nghlwb Rygbi Llanybydder ar 27 Chwefror rhwng 10am a 3pm. Bydd y sioe deithiol Twristiaeth a Busnes hefyd yn y lleoliad ar y dyddiad hwn i groesawu busnesau, grwpiau cymunedol a sefydliadau. Bydd swyddogion o'r tîm Twristiaeth, trwyddedu, cymunedau ar gyfer gwaith a chymorth busnes wrth law i siarad ar sail un i un. Does dim angen i chi archebu lle ymlaen llaw, galwch heibio rhwng 10 a 3.