Dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2025

10 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2025, a gynhelir rhwng 10 ac 16 Chwefror. 

Mae’r wythnos hon yn tynnu sylw at bwysigrwydd prentisiaethau o ran hybu economïau lleol, cefnogi busnesau, a helpu unigolion i ddatblygu sgiliau ar gyfer y gweithle sy’n datblygu. Mae prentisiaethau'n llwybr unigryw i gyflogaeth, gan gynnig profiad ymarferol, cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, a'r cyfle i ddysgu gwybodaeth hynod ddefnyddiol mewn maes penodol wrth ennill cyflog.

Mae Amy Seale ar hyn o bryd yn dilyn Prentisiaeth Cefnogi Busnes, gan weithio yn y tîm Lle, Seilwaith a Datblygu Economaidd.

Wrth siarad am ei gwaith, dywedodd Amy: 

Mae fy swydd yn ymwneud â darparu cymorth gweinyddol a chyfathrebu trwy gysylltu â chyflogwyr, marchnata a pharatoi digwyddiadau. Y peth gorau yw cael y cyfle i ddyfnhau fy nealltwriaeth am gymorth busnes, a dysgu sgiliau proffesiynol a phersonol gwerthfawr o ddydd i ddydd.” 

Dysgwch fwy am brofiad Amy yma.

Mae llwyddiant gyrfa tîm TG y Cyngor yn enghraifft arall sy’n cadarnhau effaith drawsnewidiol prentisiaethau. Dechreuodd llawer o weithwyr TG proffesiynol fel prentisiaid ac maent wedi symud ymlaen i rolau arwain a rheoli. Mae rhai hefyd wedi dilyn Prentisiaethau Gradd, gan ddatblygu eu sgiliau ymhellach wrth barhau i gefnogi gwasanaethau TG y Cyngor.

Trwy'r llwyddiannau hyn, nod y Cyngor yw dangos y cyfleoedd anhygoel y mae prentisiaethau'n eu cynnig ac ysbrydoli mwy o unigolion i'w hystyried fel llwybr at yrfa sy'n rhoi cymaint o fwynhad mewn gwasanaeth cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu:

Mae prentisiaethau’n rhan allweddol o ddatblygiad ein gweithlu medrus, ac mae’n wirioneddol ysbrydoledig gweld sut y mae’r unigolion hyn wedi datblygu o fod yn brentisiaid i fod yn uwch-arweinwyr yn y Cyngor. Mae eu llwyddiannau yn cadarnhau pŵer dysgu ymarferol a’r cyfoeth o gyfleoedd sy’n bodoli yma yn ein sir.” 

Ewch i wefan y Cyngor i ddysgu mwy am gynlluniau prentisiaeth y Cyngor - Amdani!