Cyngor yn cymeradwyo gweledigaeth tair blynedd ar gyfer gwasanaethau tai
83 diwrnod yn ôl
Mae Rhaglen Buddsoddi Tai 2025-2028 Cyngor Sir Caerfyrddin wedi'i chymeradwyo'n ddiweddar mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn.
Mae'r rhaglen yn nodi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer cynnal cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor a darparu tai fforddiadwy yn y sir. Hefyd mae'n nodi ymrwymiad y Cyngor i'r canlynol:
- Parhau i fuddsoddi yn y cartrefi sydd eisoes yn eiddo i'r Cyngor, gan gynnal eu safon a'u gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni yn ogystal â darparu tai newydd, fforddiadwy i bobl leol ledled Sir Gaerfyrddin gan ddefnyddio amryw atebion. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn llety person sengl a chymorth arbenigo
- Bwrw ymlaen ag ymagwedd gytbwys at reoli ystadau a thenantiaethau, gan gefnogi tenantiaid, gyda swyddogion tai yn weladwy ac yn hygyrch yn ogystal â chymryd camau gorfodi pan fo angen
- Gweithio gyda phobl sy'n byw mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor i helpu i lunio gwasanaethau, annog tenantiaid i fod yn rhan o'r drafodaeth trwy dderbyn gwybodaeth reolaidd, gan gymryd rhan mewn arolygon a darparu adborth
- Parhau i wella'r gwasanaeth atgyweirio, lleihau amseroedd aros ar gyfer gwaith nad yw'n frys, a chadw nifer y tai gwag sy'n eiddo i'r Cyngor mor isel â phosibl, gan osod cartrefi'n gyflym i leihau'r pwysau ar y gwasanaethau digartrefedd
- Cysylltu'r rhaglen buddsoddi tai â phrosiectau adfywio ehangach yng nghanol trefi ac ardaloedd gwledig
- Cynyddu'r ddarpariaeth gan landlordiaid o lety â chymorth dros dro arbenigol
- Cynnal y safonau uchaf o ran cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a pholisi lleol, adolygu a diweddaru'n barhaus weithdrefnau, prosesau a pholisïau, a monitro arferion iechyd a diogelwch ar y safle yn gyson
Mae'r rhaglen fuddsoddi wedi'i gwneud yn bosibl trwy incwm o daliadau rhent a ffynonellau cyllid eraill, gan alluogi buddsoddiad o fwy na £282m (cyfalaf £114m a refeniw £168m) i ddarparu gwasanaethau tai dros y tair blynedd nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies Evans, yr Aelod Cabinet dros Gartrefi:
Mae Rhaglen Buddsoddi Tai 2025-2028 yn nodi ein hymrwymiad i sicrhau bod gwasanaethau tai'r Cyngor yn Sir Gaerfyrddin yn diwallu anghenion ein cymunedau ac yn darparu cartrefi diogel, fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl leol."
"Bydd y cynllun hwn yn fframwaith ar gyfer cyflawni ein gweledigaeth o wasanaeth tai ffyniannus sy'n ceisio mynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau ac sy'n sicrhau bod ein gwasanaethau tai yn parhau i fod yn ymatebol, gwydn a chynaliadwy yn y dyfodol."
Mae Rhaglen Buddsoddi Tai 2025-2028 yn dangos ymrwymiad Cyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu 2,000 o dai Cyngor newydd yn ystod y pum mlynedd nesaf, ac yn cyfrannu at Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) 2023 sy'n amlygu'r angen i ddad-garboneiddio tai cymdeithasol.