Cyhoeddi adolygiad o'r ddarpariaeth addysgol arbennig yn Llanelli
1 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael yr adroddiad terfynol am adolygiad o'r ddarpariaeth addysgol arbennig yn Llanelli, ac wedi cyhoeddi'r adroddiad yn llawn ar ei wefan.
Cafodd David Davies, cyn-bennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Llesiant Cyngor Bro Morgannwg, ei gomisiynu gan Gyngor Sir Caerfyrddin i arwain adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth arbenigol bresennol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn Llanelli.
Mae'r adroddiad yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau dros gyfnod o bedwar mis rhwng Medi 2024 a Rhagfyr 2024. Mae'r rhain yn cynnwys trafodaethau ag ystod eang o randdeiliaid ynghyd ag ymweliadau â darpariaethau arbenigol ledled Sir Gaerfyrddin.
Mae'r adroddiad yn bwrw golwg annibynnol ar opsiynau ar gyfer darpariaeth arbenigol yn Llanelli, ac yn nodi'r pwysau ehangach yn y system, yn anad dim, yr angen i ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer Cyflyrau'r Sbectrwm Awtistig, wrth benderfynu sut i symud ymlaen.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a David Davies wedi cwrdd â llywodraethwyr a staff Ysgol Heol Goffa heddiw, dydd Iau 20 Chwefror 2025, i gyflwyno’r adroddiad a byddant yn awr yn parhau i ymgysylltu â'r holl randdeiliaid a gymerodd ran yn yr adolygiad i gasglu eu hadborth. Mae’r Awdurdod Lleol wedi gofyn am i unrhyw sylwadau gael eu cyflwyno erbyn 13 Mawrth 2025. Bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor Sir er mwyn gwneud penderfyniad ffurfiol ar yr argymhellion cyn gwyliau'r haf eleni.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price:
Rydym yn falch o gael adroddiad David Davies am y ddarpariaeth ADY yn Llanelli ac yn diolch iddo am ei waith ar y mater hwn.
Rydym yn cydnabod y chwe opsiwn posib sydd yn ei adroddiad, ac mae'n bwysig dros y tair wythnos nesaf ein bod yn ymgysylltu â'r holl randdeiliaid i gasglu unrhyw adborth pellach.
Mae'n rhaid i mi bwysleisio nad oes penderfyniad wedi ei wneud eto. Fel Cabinet, rydym yn aros am adroddiad terfynol yn dilyn adborth pellach, er mwyn i ni benderfynu ar y camau nesaf gan roi'r ystyriaeth bennaf i anghenion disgyblion Ysgol Heol Goffa a'r holl ddisgyblion ag ADY.”
Dywedodd Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Heol Goffa, Owen Jenkins:
Rydym yn croesawu adroddiad yr adolygiad ac yn edrych ymlaen i barhau gyda’n deialog adeiladol gyda’r awdurdod lleol er mwyn deilliant sy’n deg a chytbwys.”