Croesawu busnes newydd i Farchnad Llanelli
35 diwrnod yn ôl

Mae'r pasteiwr lleol Benjamin Condé wedi agor becws newydd ym marchnad Llanelli. O'r enw SAINT-HUGO, mae'r becws wedi'i ysbrydoli gan gyfnod Benjamin yn byw yn Ffrainc, ble bu'n meistroli ei grefft fel pasteiwr. Mae'r gofod wedi cael ei adnewyddu'n llawn, gan gynnwys ffyrnau ac oergelloedd o'r radd flaenaf.
Mae Benjamin yn fwyaf adnabyddus am ei ymddangosiad ar Bake Off: The Professionals, ond mae wedi dychwelyd i'w wreiddiau yn Sir Gâr i gynnig blas ar Ffrainc i bobl leol gyda'i basteiod enwog. Gyda chyfoeth o brofiad ar y lefel uchaf, gan gynnwys ei rôl fel pasteiwr gweithredol yng ngwesty enwog y Dorchester Collection yn Ascot, mae Benjamin yn gyffrous i ddod â'i arbenigedd i'r ardal.
Dyma'r hyn y dywedodd Benjamin am ei fenter ddiweddaraf:
Mae bwyd gwych yn gofyn am gynhwysion gwych, techneg wych a gwir gariad at fwyd! Yn SAINT-HUGO mae pob manylyn wedi'i ystyried i flaenoriaethu blas ac angerdd ym mhrofiad y cwsmer. Bwyd blasus, coffi gwych... bob amser.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Ar ran y Cyngor Sir, rydym wrth ein bodd yn croesawu Benjamin Condé a'i fenter newydd, Saint Hugo, i Farchnad Llanelli. Mae ei arbenigedd a'i angerdd am grwst yn ychwanegiad gwych i'n cymuned, ac rydym yn llawn cyffro i breswylwyr ac ymwelwyr brofi ei greadigaethau o'r radd flaenaf. Mae marchnad Llanelli yn lleoliad gwych i fynd i brofi amrywiaeth o wahanol fusnesau, alla i ddim aros i ymweld ag ef.