Cabinet yn cymeradwyo cynigion cyllideb 2025-26
2 diwrnod yn ôl

Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo ei Strategaeth Gyllideb ar gyfer 2025-26 ar ôl cael ei nifer ail uchaf o ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus helaeth.
Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, mae'r cynnig i drosglwyddo asedau neu gau cyfleusterau cyhoeddus wedi'i waredu o Gynnig Cyllideb 2025/26. Yn ogystal mae'r Cabinet wedi argymell atal y cynnydd arfaethedig mewn taliadau parcio, a dileu'r arbedion i'r cyllidebau priffyrdd ac amddiffyn rhag llifogydd.
Fodd bynnag, er mwyn gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26, mae'r Cabinet wedi cymeradwyo cynnydd o 9.75% i'r Dreth Gyngor a rhyw £8.6m o ostyngiadau i'r gyllideb.
Wrth baratoi cyllideb heriol iawn arall, estynnwyd gwahoddiad gan Gyngor Sir Caerfyrddin i'r cyhoedd, a phartïon eraill â diddordeb, fynegi eu barn am faterion megis y cynnydd yn y dreth gyngor, trafnidiaeth addysg, cyfleusterau cyhoeddus, a rhai gwasanaethau diwylliannol a hamdden. Cafodd y rhain eu hystyried ochr yn ochr â 90 o gynigion gweithredol manwl, megis costau adeiladu, defnydd effeithlon o gerbydau, effeithlonrwydd digidol, strwythurau staffio a swyddogaethau mewnol a chefn swyddfa.
Ymatebodd dros 2,900 o bobl i'r ymgynghoriad ar-lein, ac fe ddaeth 61 o bobl ifanc o ysgolion uwchradd y sir i ddigwyddiad wyneb yn wyneb yn Neuadd y Sir i drafod ag Aelodau'r Cabinet a mynegi eu blaenoriaethau.
Mewn ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus, mae'r Cabinet wedi cymeradwyo y newidiadau canlynol i gynigion Cyllideb y Cyngor:
• Gwaredu'r cynnig i drosglwyddo asedau neu gau ein cyfleusterau cyhoeddus, gwerth £75,000 yn 2025/26 a £50,000 yn 2026/27, gan gydnabod ymateb negyddol y cyhoedd yn yr ymgynghoriad ar y gyllideb.
• Peidio â chynyddu taliadau parcio ceir yn uwch na chwyddiant, gan gydnabod sylwadau'r cyhoedd ynghylch cyfraniad pwysig y cyfleusterau hyn o ran cefnogi busnesau canol tref a thwristiaeth, yn ogystal â'r effaith ddyddiol ar fywydau trigolion.
• Gwaredu'r £200,000 o arbedion i'r cyllidebau priffyrdd ac amddiffyn rhag llifogydd, gan gydnabod y pryder fynegwyd gan gynghorwyr yn y seminar a'r cyfarfod craffu.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, fel pob awdurdod lleol, yn gorfod gwneud penderfyniadau cyllidebol anodd iawn, yn bennaf oherwydd ffactorau tu hwnt i'w reolaeth, megis cyfradd chwyddiant, cynnydd sylweddol mewn yswiriant gwladol, a setliadau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol.
Er gwaethaf cynnydd cyllid dros dro o 4.1% gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26, cyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr 2024 fod cynnydd sylweddol wedi bod yn y galw am wasanaethau'r cyngor, yn ogystal â'r chwyddiant a'r pwysau o ran cyflog. O ganlyniad, rhaid gwneud arbedion effeithlonrwydd, ynghyd â chynnydd yn y Dreth Gyngor i bennu cyllideb sy'n gytbwys yn gyfreithiol.
Mae'r Cyngor Sir yn cael y mwyafrif o'i incwm i ariannu gwasanaethau hanfodol o ddydd i ddydd fel gofal cymdeithasol ac addysg mewn grantiau gan Lywodraeth Cymru, sydd yn ei thro yn cael grant bloc blynyddol gan Lywodraeth y DU. Dim ond 16% o gyllid y Cyngor sy'n dod o'r Dreth Gyngor.
Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i bennu cyllideb gytbwys yn flynyddol, gan sicrhau bod incwm o ffynonellau megis y Grant Cynnal Refeniw, y Dreth Gyngor, grantiau a gwasanaethau y telir amdanynt yn ddigon i dalu am ei wariant.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, y Cynghorydd Alun Lenny:
"I bob pwrpas, mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn wynebu cyni cyllidol am y bymthegfed flwyddyn. Erys y cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn annigonol. Yn wir, hon yw'r flwyddyn waethaf gallaf ei chofio. Hyd yn oed mor hwyr â hyn yn y dydd, rydym yn dal i lobïo Llywodraeth Cymru, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, am setliad gwell.
O edrych ar Gymru gyfan, cynyddodd y cyllid dros dro ar gyfer llywodraeth leol 4.3%. Fel sy'n hysbys, derbyniodd Cyngor Sir Caerfyrddin godiad o 4.1% o ran y Grant Cynnal Refeniw, sydd, o'i ychwanegu at drosglwyddiadau grant, werth tua £25m. Fodd bynnag, mae hyn yn llai na hanner y £55m sydd ei angen ar y Cyngor Sir, oherwydd y cyfuniad o bwysau ar wasanaethau a chynnydd mewn costau, a'r twll gwerth miliynau o bunnoedd sydd yn ein cyllideb o achos cynnydd yswiriant cenedlaethol y Canghellor.
Rydym ni wedi adolygu prif elfennau ein rhagdybiaethau a'n dyraniadau cyllidebol. Mae chwyddiant yn parhau i fod yn uwch na tharged Banc Lloegr o 2% - ac efallai y bydd yn cynyddu eto, felly rydym wedi gorfod diwygio'r codiad i'n gwariant net hanner y cant, i 2.5%. Mae cyllideb y flwyddyn nesaf yn cadw ein rhagdybiaeth o ran y cynllun ariannol tymor canolig sef cynnydd o 1% yn uwch na chwyddiant ar gyfer dyfarniadau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, felly mae'r rhain hefyd yn cael eu codi.
At ei gilydd, mae'r rhain yn ychwanegu mwy na £2m at y symiau y darparwyd ar eu cyfer yn ein cyllideb ddrafft. O ystyried hyn, rydym wedi gallu lleihau ein lwfans ar gyfer y cynnydd Yswiriant Gwladol hanner miliwn o bunnoedd, ond hyd yn oed o ganiatáu ar gyfer y newid hwn, mae costau cyflog yn ychwanegu £23m i'n cyllideb y flwyddyn nesaf. Mae'r cynnydd mewn chwyddiant hefyd yn cael ei wrthbwyso gan ostyngiad terfynol o £2.2m yng nghostau ynni'r flwyddyn nesaf, nawr bod bron ein holl ffynonellau tanwydd wedi eu sicrhau.
Am bron i chwe wythnos yn Rhagfyr ac Ionawr, fe wnaethom ymgynghori'n eang ar ein cynigion polisi ar gyfer y gyllideb. Bu i fwy na 2,900 o bobl rannu eu barn, ac rwy'n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad neu a ymatebodd i'r arolygon. O'r ymatebion a gafwyd, teg yw dweud bod pobl, ar y cyfan, yn sylweddoli bod yn rhaid gwneud dewisiadau anodd.”
Bydd Cynnig Cyllideb Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2025/26 yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn ddydd Mercher, 5 Mawrth 2025.