Y diweddaraf am darfu ar gasgliadau gwastraff ac ailgylchu dros y Nadolig
2 diwrnod yn ôl
Yn dilyn tarfu sylweddol ar ein casgliadau deunydd ailgylchu a gwastraff, yn ystod ac ar ôl gwyliau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, mae Cyngor Sir Caerfyrddin am ymddiheuro'n ddiffuant i breswylwyr y mae hyn wedi effeithio arnynt.
Os nad yw eich gwastraff wedi'i gasglu, gofynnwn yn garedig i chi roi gwybod am hyn drwy wefan y Cyngor. Bydd hyn yn ein helpu i fynd i'r afael â'r mater yn fwy effeithlon a sicrhau bod eich gwastraff yn cael ei gasglu cyn gynted â phosibl. Diolch am eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad.
Rhowch wybod am finiau sydd heb eu casglu yma.
Gallwch hefyd edrych ar ein tudalen we tarfu ar gasgliadau gwastraff am unrhyw oedi mawr yn eich ardal.
Dros y Nadolig nid yw gwasanaeth casglu gwastraff y Cyngor Sir wedi cyrraedd y lefelau gwasanaeth a ddisgwylir gan ein preswylwyr a'r hyn y mae'r Awdurdod yn dymuno'i gyflawni.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio'n galed, yn uniongyrchol gyda'i griwiau, i unioni'r sefyllfa cyn gynted â phosibl.
Er bod sawl her wedi codi o ran gwasanaethau casglu gwastraff dros wyliau banc ers nifer o flynyddoedd, mae'r Cyngor Sir wedi cynnal treialon o wahanol atebion i wella perfformiad casglu. Fodd bynnag, yr her fwyaf o hyd yw argaeledd staff. Nid oes unrhyw rwymedigaeth gontractiol ar y gweithlu i weithio naill ai ar ŵyl y banc, nac ar y penwythnos dilynol, ac rydym wedi'i chael hi'n anodd dod o hyd i ddigon o weithwyr ar draws y sir i ddarparu gwasanaeth sicr.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr â'n preswylwyr y mae tarfu ar gasgliadau biniau dros yr wythnosau diwethaf wedi effeithio arnynt, ac yn deall eu rhwystredigaethau.
Gallwch eich sicrhau ein bod yn gweithio'n ddiflino i ddal i fyny ar yr holl gasgliadau ac mae ein swyddogion yn edrych ar yr holl atebion posibl i atal y lefel hon o darfu rhag digwydd eto. Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â staff ac undebau llafur i ddeall sut y gallwn ddarparu sicrwydd o wasanaeth ar gyfer gwyliau banc yn y dyfodol a byddwn yn datblygu cynllun manwl sy'n cydbwyso heriau gweithredol, barn staff ac anghenion y gymuned ochr yn ochr â'r goblygiadau ariannol.
Y Nadolig hwn rydym yn y rhan fwyaf o ardaloedd wedi llwyddo i gwblhau ein casgliadau gwastraff gweddilliol (bagiau du) a Chynnyrch Hylendid Amsugnol (gwastraff cewynnau. Fodd bynnag, mae'r casgliadau ailgylchu (bagiau glas a gwastraff bwyd) wedi bod yn heriol. Mae hyn yn rhannol oherwydd y swm sylweddol o wastraff ailgylchu yn ystod cyfnod yr ŵyl, a oedd yn ddisgwyliedig. Fodd bynnag, cafodd y broblem ei chymhlethu gan lefelau absenoldeb staff, mwy o gerbydau'n torri i lawr, ac oedi yn ein gorsafoedd trosglwyddo, gan arwain at fethiant gwasanaeth ar raddfa eang ledled y sir.
Unwaith eto, hoffwn ailadrodd fy ymddiheuriadau i breswylwyr yr effeithir arnynt a diolch iddynt am eu dealltwriaeth a'u hamynedd yn ystod y cyfnod heriol hwn i'n gwasanaeth ailgylchu a gwastraff.”