Sut mae'ch Cyngor yn cael ei ariannu a sut mae'n darparu eich gwasanaethau?
59 diwrnod yn ôl
Y flwyddyn ariannol hon, 2024/25, mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyllideb o £742 miliwn i ddarparu gwasanaethau o ddydd i ddydd i'w breswylwyr.
Er mwyn esbonio ffynhonnell y gyllideb o £742 miliwn a sut mae'n cael ei wario, mae'r Cyngor Sir wedi cynhyrchu dau fideo byr i roi trosolwg i breswylwyr o ffrydiau incwm yr Awdurdod a sut mae'r arian yn cael ei ddyrannu i ariannu ei wasanaethau o ddydd i ddydd.
Cliciwch yma i weld Sut mae eich Cyngor yn cael ei ariannu
Cliciwch yma i weld Sut mae eich Cyngor yn darparu eich gwasanaethau
Crëwyd y fideos hyn i hysbysu preswylwyr am ddyraniad cyllideb y Cyngor Sir gan ei fod yn ymgynghori â'r cyhoedd ar hyn o bryd ar ei gyllideb ar gyfer 2025/26.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn i'w breswylwyr fynegi eu barn ar, er enghraifft, cynnydd yn y dreth gyngor, trafnidiaeth addysgol, cyfleusterau cyhoeddus, a rhai gwasanaethau diwylliannol a hamdden. Bydd y rhain yn cael eu hystyried ochr yn ochr â 90 o gynigion gweithredol manwl, megis costau adeiladu, defnydd effeithlon o gerbydau, effeithlonrwydd digidol, strwythurau staffio a swyddogaethau mewnol a chefn swyddfa.
Trafodwyd rhestr fanwl yn llawn yng nghyfarfod y Cabinet, a gynhaliwyd ddydd Llun, 13 Ionawr 2025. Gellir gweld recordiad o'r cyfarfod ar y wefan.
Cliciwch yma i weld ein Hymgynghoriad ynghylch Cyllideb.
Yn ogystal â'r ymgynghoriad ar-lein, mae'r Cyngor yn cynnal ymgynghoriadau wyneb yn wyneb yn ei dri phrif Hwb ar y dyddiadau canlynol:
Hwb Llanelli – 14 Ionawr (12.30pm-2.30pm)
Hwb Caerfyrddin – 20 Ionawr (3pm-5pm)
Hwb Rhydaman – 23 Ionawr (12pm-2pm)
Yn dilyn cynnydd cyllid dros dro o 4.1% gan Lywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr, mae dal angen i Gyngor Sir Caerfyrddin bontio diffyg yr amcangyfrifir ei fod o gwmpas dros £18 miliwn yn ei gyllideb ar gyfer 2025/26.
Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i bennu cyllideb gytbwys yn flynyddol, gan sicrhau bod incwm o ffynonellau megis y Grant Cynnal Refeniw, y Dreth Gyngor, grantiau a gwasanaethau y telir amdanynt yn ddigon i dalu am ei wariant.
Mae penderfyniadau anodd iawn o flaen Cyngor Sir Caerfyrddin. Rydym bellach yn gwahodd preswylwyr, busnesau, sefydliadau cymunedol a gwirfoddol i ddweud eu dweud ar gynigion polisi newydd i arbed arian, o bob rhan o wasanaethau'r Cyngor. Fel Awdurdod, rydym wedi gweithio'n galed i gyfyngu ar nifer y newidiadau polisi sy'n cael eu cyflwyno ar gyfer ymgynghori eleni i leihau'r effaith ar ein preswylwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:
Os ydych chi erioed wedi ystyried sut mae'r Cyngor Sir yn cael ei ariannu a sut mae'n dyrannu ei arian i dalu am wasanaethau dydd i ddydd ei breswylwyr, byddwn yn eich annog i gymryd ychydig funudau o'ch diwrnod i wylio'r fideos hyn.
Mae dros hanner o incwm Cyngor Sir Caerfyrddin i ariannu gwasanaethau hanfodol o ddydd i ddydd fel gofal cymdeithasol ac addysg yn dod o grantiau gan Lywodraeth Cymru, sydd yn ei dro yn cael grant bloc blynyddol gan Lywodraeth y DU. Dim ond 16% o weddill incwm y Cyngor sy'n dod o'r Dreth Gyngor.
Yn bennaf o ganlyniad i ffactorau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, megis chwyddiant, a chynnydd sylweddol mewn yswiriant gwladol, setliadau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, a swm y cynnydd blynyddol mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru, mae'r Cyngor, ac yn wir pob awdurdod lleol arall yng Nghymru, yn gorfod gwneud penderfyniadau cyllidebol anodd iawn. Mae'n hynod o bwysig felly bod y cyhoedd yn ymgysylltu â ni ynghylch y set o gynigion rydym wedi'u cyhoeddi yn yr Ymgynghoriad ynghylch y Gyllideb.
Rydym yn deall ac yn cydnabod y gallai'r cynigion hyn fod yn amhoblogaidd ac felly mae ymateb i'r arolwg yn bwysig."
Mae amseriad ymgynghoriad Cyngor Sir Caerfyrddin yn unol â chyllideb Llywodraeth y DU a chyllideb dros dro Llywodraeth Cymru.
Bydd y Cynghorwyr yn ystyried y farn a fynegir yn yr ymgynghoriad hwn, ochr yn ochr â chynigion gweithredol, gwerth hyd at tua £7.5 miliwn pan gaiff y gyllideb ei chymeradwyo'n derfynol gan y Cyngor Llawn ym mis Mawrth 2025.
Gall pobl rannu eu barn ar-lein neu drwy ymweld â hwb gwasanaethau cwsmeriaid y cyngor yng nghanol trefi Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman.
Mae'r cyfnod ymgynghori ynghylch y gyllideb yn dod i ben ar 26 ar Ionawr 2025.