Sir Gâr yn paratoi i ymddangos yn 'Out There', y ddrama Noir Celtaidd ddiweddaraf - gwahoddir y rhai sy'n chwilio am leoliadau i ddilyn canllaw newydd y sir ar gyfer 'Jetsetwyr Setiau' ynghylch ei nifer o olygfeydd trawiadol
4 diwrnod yn ôl
Mae Sir Gâr ar fin cymryd rôl flaenllaw arall fel lleoliad drama ddygn hir-ddisgwyliedig ITV a fydd yn cael ei darlledu ar 19 Ionawr 2025, sef 'Out There' a gynhyrchwyd gan Buffalo Pictures, ac sy'n serennu Martin Clunes. Yn wir mae'r sir yn paratoi i ddenu rhagor o unigolion sy'n chwilio am leoliadau ffilm gyda'i chanllaw newydd ar gyfer 'Jetsetwyr Setiau'.
Mae Sir Gâr yn prysur gael ei chydnabod fel lleoliad ar gyfer ffilmio'r genre Noir Celtaidd ac mae'r ddrama gyffrous chwe rhan newydd yn ymuno â'r cynyrchiadau teledu a ffilm niferus sydd wedi'u denu gan dirweddau dramatig a chyfareddol a threfi marchnad atyniadol y sir.
Mae'n dilyn cynyrchiadau fel cyfres 1, 2 a 3 Keeping Faith y BBC, yn ogystal â The Light in the Hall | Y Golau ar gyfer Channel 4 ac S4C, sydd hefyd wedi ffilmio'r ail gyfres eleni ac sydd i'w gweld yn fuan.
Mae tîm twristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gweithio gyda nifer o gwmnïau cynhyrchu sydd wedi bod yn awyddus i ddefnyddio'r sir hardd hon yng ngorllewin Cymru ar gyfer eu dramâu ar y sgrîn. Gall y Cyngor Sir ddarparu cymorth ar gyfer ymholiadau cychwynnol gan gwmnïau cynhyrchu, darparu gwybodaeth am logisteg ac amodau lleol, cysylltu â'r gadwyn gyflenwi leol, yr awdurdodau cyhoeddus eraill a'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch y Sir. Gall swyddogion y cyngor hefyd gynorthwyo o ran sicrhau caniatâd ar gyfer ffilmio, rheoli traffig a pharcio, ymgysylltu â'r gymuned a chynorthwyo i drefnu llety a lletygarwch ar gyfer criwiau ffilmio.
Bydd Out There yn arddangos harddwch naturiol Sir Gâr, sy'n wrthgyferbyniad llwyr i'r don dwyllodrus o drosedd sy'n wynebu cefn gwlad Prydain, a hynny o dan arweiniad gwerthwyr cyffuriau llinellau cyffuriau – sef gangiau trefol sy'n gweithredu yng nghefn gwlad. Mae Martin Clunes yn serennu fel ffermwr a rhiant sengl, sef Nathan Williams, sy'n berchen ar fferm sydd wedi bod yn ei deulu ers cenedlaethau.
Gall y rhai sy'n dilyn dramâu cyffrous, ac sy'n dymuno crwydro Sir Gâr, ymweld â llawer o'r lleoliadau ffilmio, yn ogystal â lleoliadau ffilmiau mawr eraill, trwy ddilyn 'Llwybr Jetsetwyr Setiau' newydd Darganfod Sir Gâr. Mae'r canllaw ‘Llwybr Jetsetwyr Setiau’ yn llawn gwybodaeth ac yn rhoi awgrymiadau ynghylch y ffordd orau o ddilyn ôl troed, sy'n gallu bod yn iasol weithiau, nifer o sêr o amgylch y sir, er enghraifft Eve Myles ac aber Talacharn.
Er enghraifft defnyddiwyd tref farchnad hynafol Llanymddyfri, sydd ar gyrion gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn helaeth drwy gydol y gyfres newydd, gan gynnwys Sgwâr y Farchnad, tafarn y Whitehall o'r 17eg ganrif, adfeilion Castell Llanymddyfri o'r 13eg ganrif, gorsaf drenau Llanymddyfri a hyd yn oed Ozzy’s Kebab & Pizza House, sef un o'r ffefrynnau ymhlith y siopau tecawê lleol.
Datblygwyd y fenter Jetsetwyr Setiau hon gan dîm Twristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n rheoli Darganfod Sir Gâr, sef gwefan cyrchfannau i ddefnyddwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
O'n traethau baneri glas gogoneddus i'n bryniau trawiadol, mae Sir Gâr yn ddewis poblogaidd ar gyfer llawer o leoliadau teledu a ffilm. Yn ogystal, mae tapestri o drefi yn yr ardal wedi'u gwasgaru ar draws Sir Gâr ac mae pob un yn ymfalchïo yn ei hanes unigryw ei hun ac yn cynnig nodweddion croesawgar i ymwelwyr a chriwiau ffilmio.
Cafodd y gyfres ei hysgrifennu gan y sgriptiwr Ed Whitmore (Steeltown Murders, Grace, Manhunt, Silent Witness, Safe House) a'i harwain gan y cyfarwyddwr o Gymru, Marc Evans (Steeltown Murders, Manhunt, The Pembrokeshire Murders, Grav). Cafodd ei ffilmio i raddau helaeth yn ardal y Mynydd Du a Llanymddyfri gan ddefnyddio talent leol ar gyfer llawer o'r cast a'r criw.
Rydym yn llawn cyffro bod Sir Gâr wedi cael ei dewis ar gyfer cyfres ddarlledu fawr arall ac rydym yn prysur ennill enw da fel prif leoliad y genre Noir Celtaidd o ran creu ffilmiau. Yn dilyn Keeping Faith gwelsom nifer fawr o ymwelwyr â'r sir, a hynny oherwydd bod y golygfeydd anhygoel wedi'u denu yno, ac rydym yn hyderus y gallwn ddenu'r bobl sy'n hoffi'r cynyrchiadau newydd yn y dyfodol i archwilio'u tirweddau 'sinematig' a dilyn ein canllaw Jetsetwyr Setiau i ddatgelu rhai o'r lleoliadau eiconig. Cafodd Denmarc ei rhoi ar y map rhyngwladol gan The Killing a Sarah Lund o ran Nordic Noir ac mae gennym uchelgeisiau mawr. Nid oes rheswm pam na all yr un peth ddigwydd i Sir Gâr.
Cynhyrchwyd Out There gyda chymorth Llywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol. Dywedodd Joedi Langley, Pennaeth Dros Dro Cymru Greadigol:
Rydym yn falch iawn ein bod wedi cefnogi'r cynhyrchiad hwn, sydd wedi'i ffilmio mewn lleoliadau ffilmio trawiadol yng Nghymru ac sydd â stori afaelgar. Drwy gefnogi cynyrchiadau ffilmio yng Nghymru, rydym yn creu cyfleoedd gwaith i griwiau lleol ac, yn bwysig iawn, yn creu cyfleoedd i hyfforddeion ar gyfer y genhedlaeth nesaf o bobl greadigol yng Nghymru.
Bydd Out There ar gael ar-lein ar ITVX: www.itv.com.
I gael rhagor o wybodaeth am leoliadau ffilm a theledu ar draws Sir Gâr, dilynwch Ganllaw Jetsetwyr Setiau newydd y sir – https://www.darganfodsirgar.com/crwydro/set-jetters/