Sesiynau Hwb newydd gyda'r nos i gynnig cefnogaeth ym mis Chwefror a mis Mawrth

46 diwrnod yn ôl

Bydd ymgynghorwyr Hwb y Cyngor, ynghyd ag amrywiaeth o sefydliadau partner, yn cynnig cymorth a chyngor mewn lleoliadau ledled y sir drwy gyfrwng sesiynau newydd gyda'r nos yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth.

Mae'r Hwb Nos yn fenter newydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu gwasanaethau hanfodol mewn modd mwy hygyrch, yn enwedig i'r rhai na allant ymweld â'r Canolfannau Hwb i gael cymorth yn ystod oriau gwaith traddodiadol 9-5.

Yn ogystal ag ymgynghorwyr Hwb y Cyngor, bydd amrywiaeth o sefydliadau partner hefyd, yn cynnig trafodaethau wyneb yn wyneb a chefnogaeth ar bopeth o wasanaethau'r cyngor i lesiant a chyflogadwyedd.

Bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol:

                     Neuadd Ddinesig San Pedr Caerfyrddin - 12 Chwefror (4-7pm)

                     Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn - 20 Chwefror (4-7pm)

                     Canolfan Hamdden Llanelli - 26 Chwefror (4-7pm)

                     Canolfan Hamdden Rhydaman - 12 Mawrth (4-7pm)

                     Canolfan Hamdden Llanymddyfri - 19 Mawrth (5.30-8pm)

                     Canolfan Hamdden Sanclêr - 26 Mawrth (4-7pm)

Dyma beth y gallwch chi ei ddisgwyl o'r digwyddiadau

Bydd ymgynghorwyr Hwb Cyngor Sir Gaerfyrddin yno i gynorthwyo gyda'r holl ymholiadau am y cyngor, darparu cyngor a chymorth ynghylch costau byw, cymorth llesiant ac atgyfeiriadau uniongyrchol i Ganolfan Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin. 

Bydd Cymunedau Actif yn bresennol i arddangos eu gweithgareddau sy'n addas i anghenion pob cynulleidfa ac i roi gwybod i chi beth sydd ymlaen yn eich cymuned. 

Bydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yno i ddangos pa gymorth sydd ar gael i deuluoedd, gan roi gwybodaeth am opsiynau gofal plant o ansawdd da, gweithgareddau a digwyddiadau.

Bydd swyddogion Cymorth Cyflogadwyedd wrth law i gynorthwyo pobl i ddychwelyd i'r gwaith, nodi cyfleoedd hyfforddiant a helpu i ysgrifennu CV.

Bydd swyddogion tai o'r Gwasanaethau Tai yn bresennol i gynorthwyo gydag ymholiadau o ran rhent tai cyngor a materion rheoli ystadau.

Bydd swyddogion Dysgu Oedolion yn bresennol i gynorthwyo gyda dysgu digidol a chynnig cyrsiau i ddatgloi sgiliau, diddordebau a chyfleoedd newydd.

Bydd Angor yno i gynnig cymorth i unrhyw un sy'n dioddef o ganser neu salwch sy'n cyfyngu ar fywyd.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gartrefi, y Cynghorydd Linda Evans: 

Rydym yn gyffrous i gynnig y sesiynau Hwb Nos newydd hyn fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i wneud gwasanaethau hanfodol yn fwy hygyrch i bawb yn ein cymuned. Drwy weithio gyda sefydliadau partner, ein nod yw darparu cymorth ar ystod o faterion, gan sicrhau bod cyfle i bawb fynychu, waeth beth fo'u hamserlen."