Newidiadau i Wasanaeth Casglu Gwastraff Gardd Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2025
23 diwrnod yn ôl

Mae newidiadau'n cael eu gwneud i'r ffordd y mae preswylwyr yn cofrestru i gael gwasanaeth casglu gwastraff gardd y Cyngor.
Gan ddechrau eleni, ni fydd preswylwyr bellach yn derbyn anfoneb ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd ac mae'n rhaid iddynt danysgrifio'n flynyddol yn lle hynny. Mae'r cyfnod tanysgrifio bellach ar agor, a gall preswylwyr gofrestru ar-lein ar dudalen we gwastraff gardd y Cyngor Gwastraff gardd - Cyngor Sir Caerfyrddin neu drwy fynd i un o ganolfannau Hwb y Cyngor yn Rhydaman, Caerfyrddin, neu Lanelli.
Y tâl gwasanaeth blynyddol ar gyfer 2025 yw £58.83. Gall preswylwyr ddewis lledaenu'r gost drwy daliadau debyd uniongyrchol neu os yw cwsmeriaid yn dewis talu yn llawn rhoddir gostyngiad o 10% gan leihau'r ffi i £53.
Bydd preswylwyr y mae angen biniau lluosog arnynt yn cael gostyngiad o 10% ar y tâl gwasanaeth ar gyfer y biniau hyn.
Er mwyn osgoi unrhyw darfu ar wasanaeth, gofynnir i breswylwyr sicrhau bod eu tanysgrifiadau'n weithredol cyn i'r gwasanaeth ailddechrau ym mis Mawrth.
Gellir gweld y telerau a'r amodau wedi'u diweddaru drwy fynd i Telerau ac Amodau Gwastraff gardd - Cyngor Sir Caerfyrddin
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Mae'r diweddariadau hyn i'r gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn gam pwysig o ran gwella effeithlonrwydd a sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i'n preswylwyr. Drwy addasu i'r strwythur newydd hwn, rydym hefyd yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol, gan droi gwastraff gardd yn gompost gwerthfawr. Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth barhaus y gymuned i'n helpu i greu Sir Gaerfyrddin wyrddach, lanach."
Bydd diwrnodau ac wythnosau casglu penodol yn cael eu rhannu drwy galendrau casglu wedi'u personoli a bydd cwsmeriaid presennol yn cael gohebiaeth gan y Cyngor dros yr wythnos nesaf. Gall preswylwyr hefyd gofrestru i gael negeseuon e-bost neu negeseuon testun i'w hatgoffa am eu diwrnodau gasglu drwy fynd i Negeseuon atgoffa am gasgliadau ar e-bost/neges destun - Cyngor Sir Caerfyrddin