Maethu Cymru Sir Gâr yn lansio ymgyrch i recriwtio gofalwyr maeth
3 diwrnod yn ôl
Mae Maethu Cymru Sir Gâr wedi lansio ymgyrch i recriwtio gofalwyr maeth, gan ganolbwyntio ar gadw plant a phobl ifanc yn lleol fel eu bod yn gallu ffynnu yn eu cymunedau eu hunain. Mae'r fenter yn tynnu sylw at rôl hanfodol maethu yn lleol, gan fod o fudd nid yn unig i blant sydd angen gofal ond hefyd i deuluoedd a chymunedau ledled Sir Gâr.
Mae pob plentyn yn haeddu teimlo'n ddiogel, teimlo'i fod yn cael ei gefnogi a theimlo cysylltiad â'i wreiddiau, boed hynny trwy ei ysgol, ei deulu, ei ffrindiau neu ei amgylchedd cyfarwydd. Mae cynnal y cysylltiadau hyn yn darparu sylfaen sefydlog sy'n annog gwytnwch ac ymdeimlad o hunaniaeth yn ystod cyfnodau anodd.
Mae gofalwyr maeth lleol yn chwarae rhan hanfodol o ran trawsnewid bywydau plant a phobl ifanc. Trwy ddewis Maethu Cymru Sir Gâr, mae gofalwyr yn dod yn rhan o rwydwaith cefnogol a dibynadwy sy'n ymroddedig i gael effaith gadarnhaol.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:
Mae ein gofalwyr maeth wrth wraidd ein cymuned, gan gynnig sefydlogrwydd a chariad i blant a phobl ifanc sydd ei angen fwyaf.
Mae maethu'n lleol yn sicrhau bod plant yn parhau i fod yn gysylltiedig â'r bobl a'r lleoedd sy'n bwysig iddyn nhw. Trwy ddewis Maethu Cymru Sir Gâr, rydych yn ymuno â rhwydwaith dibynadwy a fydd yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd.
Os ydych chi erioed wedi ystyried bod yn ofalwyr maeth, rwy'n eich annog i gymryd y cam nesaf - gallwch wneud gwahaniaeth go iawn ym mywyd plentyn."
Bydd Maethu Cymru Sir Gâr yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau gwybodaeth ar draws y sir. Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle perffaith i gwrdd â'r tîm, i ofyn cwestiynau, ac i gael rhagor o wybodaeth am faethu. Dewch o hyd i'n rhestr digwyddiadau yma. P'un a ydych chi'n barod i ddechrau eich taith faethu neu eich bod am ystyried y syniad, mae croeso i bawb.
Os na allwch fynd i un o'r digwyddiadau, gallwch gysylltu â ni'n uniongyrchol i ddysgu rhagor am gyfleoedd maethu ac i archwilio sut y gallwch ddarparu sefydlogrwydd, cefnogaeth a dyfodol mwy disglair i blant lleol mewn angen.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Maethu Cymru Sir Gâr.