Hwb Bach y Wlad yn ehangu gwasanaethau cyfannol i gymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin
8 diwrnod yn ôl
Mae Hwb Bach y Wlad yn cydweithio ag asiantaethau partner allweddol i ddarparu amrywiaeth cynhwysfawr o wasanaethau sydd â'r nod o gefnogi llesiant a gwytnwch ariannol cymunedau gwledig yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r fenter hon yn cael ei chryfhau gan raglen "Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi" Cyngor Sir Caerfyrddin, sydd wedi bod yn ganolog o ran cynnig cymorth ariannol a llesiant i'r rhai mewn angen.
Gan ddechrau ddydd Gwener, 10 Ionawr, bydd adran Gwasanaethau Tai y cyngor yn ymuno â sesiynau Hwb Bach y Wlad mewn 10 tref wledig yn y sir. Bydd swyddogion tai wrth law i helpu gydag amrywiaeth o ymholiadau, gan gynnwys cymorth rhent, materion eiddo'r cyngor, a phryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol.
O ddydd Llun, 13 Ionawr, bydd Angor, sefydliad cymorth canser a salwch sy'n cyfyngu ar fywyd, hefyd yn ymuno â sesiynau Hwb Bach y Wlad. Mae Angor yn grŵp cymunedol sydd wedi ymroi i gefnogi unigolion a theuluoedd y mae diagnosis sy'n newid bywyd yn effeithio arnynt. Mae eu dull gwybodus ac empathig yn darparu gobaith, nerth a chymorth ymarferol i helpu pobl i wynebu cyfnodau heriol.
Bydd cyfleoedd dysgu oedolion a digidol ar gael i'r rhai sy'n bresennol. Gan ddechrau ddydd Mawrth, 21 Ionawr, bydd swyddog o adran Addysg Oedolion Sir Gaerfyrddin yn cynnig arweiniad ar addasu i'r newidiadau cyflym mewn technoleg, gan ddechrau gyda sesiwn yn y Gât, Sanclêr.
Mae'r rhaglen estynedig hon o sesiynau Hwb yn parhau tan fis Mawrth 2025, gan sicrhau bod preswylwyr ledled Sir Gaerfyrddin yn gallu cael mynediad at gymorth hanfodol yn agos i'w cartref.
Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:
Mae'r fenter hon yn pwysleisio ein hymrwymiad i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol ar gael i bawb yn ein cymunedau gwledig. Drwy ddod â'r gwasanaethau hyn yn uniongyrchol i'r bobl, rydyn ni'n mynd i'r afael â'u hanghenion mewn modd cyfannol."
I gael rhagor o wybodaeth am amserlenni a lleoliadau'r sesiynau, ewch i: Digwyddiadau Pwyslais