Ein Trefi Gwledig: Sanclêr

3 diwrnod yn ôl

Fel rhan o'r rhaglen Deg Tref gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mae trefi marchnad gwledig y Sir wedi derbyn cefnogaeth i ddatblygu prosiectau newydd cyffrous i ychwanegu bywiogrwydd a budd economaidd i'w tref. Y mis hwn, rydym yn canolbwyntio ar Sanclêr, ac yn edrych ar sut y mae'r dref wedi elwa ar gyllid trwy Gyngor Sir Caerfyrddin a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Saif tref fechan Sanclêr yng nghornel dde-orllewinol Sir Gaerfyrddin tua 8 milltir o Gaerfyrddin. Mae Sanclêr yn llawn hanes cyfoethog ac mae ganddi gysylltiad agos â Therfysgoedd Beca yn yr 1800au mewn rhannau gwledig o orllewin Cymru.  Beth am fynd am dro o amgylch Sanclêr a gweld ystod o siopau annibynnol a lleoedd i fwyta ac yfed. I wybod mwy am Sanclêr fel cyrchfan, ewch i Darganfod Sir Gâr.

Fel adeilad angori yng nghanol y dref, adnabuwyd Y Gât fel adeilad allweddol i’w wella i weddu i anghenion economaidd a chymdeithasol trigolion Sanclêr ac ymwelwyr. Wrth i gyngor y dref ddechrau ar y broses o drosglwyddo asedau oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin, sicrhawyd cymorth ariannol i ailddatblygu’r ardal i lawr y grisiau i greu cynllun sy’n fwy addas i’r diben ar gyfer cynnal gweithgareddau a darpariaethau. Mae'r gwaith ad-drefnu hefyd yn darparu gwell mynediad i ardal y caffi, sydd bellach wedi ailagor gyda busnes lleol newydd yn ei redeg yn ardal y caffi.

Bydd cydlynydd yn rheoli'r ganolfan, a'i rôl bennaf fydd hwyluso darpariaeth a gwasanaethau yn yr adeilad, sydd hefyd â gofod gweithdy uned busnes bach, llyfrgell leol ac ystafell gyfarfod i'w llogi.

Roedd cyfnodau ymgynghori hir gyda rhanddeiliaid lleol yn nodi'r angen i wella elfen ddigidol a chyfathrebu'r dref. Mae sgriniau digidol wedi’u gosod y tu allan i’r Gât ac ym maes parcio Heol Pentre i arddangos gweithgarwch lleol, tynnu sylw at newyddion cymunedol a busnes lleol.

Mae nifer o'r safleoedd busnes yn Sanclêr wedi elwa ar gymorth gan gronfa Adfywio Canol Trefi Gwledig. Yn ogystal â chefnogi'r gwaith o adnewyddu ochr allanol adeiladau a gosod arwyddion newydd, mae murlun celf wedi’i osod ar adeilad Fferyllfa Evans sy’n arddangos hanes Sanclêr a thirnodau hanesyddol. Mae’r artist lleol Steve Jenkins sy'n cael ei adnabod fel Jenks Art, wedi creu dau furlun yn Sanclêr sydd wedi ennyn ymateb cadarnhaol gan ymwelwyr a thrigolion.

Mae'r gwaith o wella stryd fawr Heol Pentre bron â chael ei gwblhau, gyda chelfi stryd cynhwysol newydd ar lan yr afon, adnewyddu celfi stryd a llwybrau, yn ogystal â chysodfannau bysiau newydd a fydd yn cael eu gosod yn y gwanwyn.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU hefyd wedi cefnogi prosiectau eraill yn ardal Sanclêr. Bu Tŷ Croeso, sydd ym Methlehem, Pwll-trap, yn llwyddiannus yn ei ymgais i ennill cymorth wrth ddatblygu'r capel i fod yn ganolfan i gymuned Pwll-trap a'i anghenion; yn benodol, canolfan i hyrwyddo gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r defnydd o'r iaith yn y gymuned yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol, hamdden a llesiant. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn Nhŷ Croeso ar gael yma

Mae prosiect cyffrous hefyd ar y gweill sy'n codi ymwybyddiaeth o'r agenda economi gylchol yn y dref. Cerflunydd o Sir Gaerfyrddin yw Lisa Evans sydd wedi’i chomisiynu i greu darn celf a fydd yn cael ei osod mewn man sy’n hygyrch i’r gymuned gyfan. Alwminiwm fydd y deunydd a ddefnyddir i greu’r darn celf, ac mae plant ysgol lleol ac aelodau o sefydliadau cymunedol lleol fel y Men’s Shed wedi cyfrannu at y dyluniad. Os ydych yn lleol i’r ardal ac yn dymuno cyfrannu deunydd alwminiwm i’r prosiect hwn, mae man gollwng wedi’i sefydlu yn Y Gât i aelodau’r cyhoedd ddod â deunydd ar gyfer y prosiect.

Mae tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Gwledig Cyngor Sir Caerfyrddin, Hwb Bach y Wlad, yn ymweld â lleoliadau gwledig ar draws y Sir i gynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor. Gall ymgynghorwyr profiadol Hwb helpu preswylwyr Sir Gaerfyrddin gyda'u hymholiadau Cyngor a darparu bagiau gwastraff ac ailgylchu yn ogystal ag eitemau Tlodi Mislif. Ochr yn ochr â hyn, gall ymgynghorwyr gyfeirio preswylwyr at adrannau perthnasol y Cyngor a sefydliadau a all gynorthwyo ymhellach gyda'u hymholiadau.

Bydd Hwb Bach y Wlad yn Y Gât ar 3ydd dydd Mawrth y mis, 10:30am-3pm. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan.

Bydd y sioe deithiol Twristiaeth a Busnes nesaf yn mynd i Ganolfan Hamdden Sanclêr ddydd Iau 23 Ionawr gan roi cyfle i fusnesau a grwpiau cymunedol gwrdd â swyddogion y Cyngor Sir. Bydd cyngor ar gael ar bob agwedd ar y sector twristiaeth a busnes; gan gynnwys trwyddedu, cynllunio, opsiynau ariannu, grantiau sydd ar gael ar hyn o bryd i fusnesau, yn ogystal â chymorth marchnata.

Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:

Gyda diolch i’r rhaglen 10 tref a chyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae Sanclêr wedi elwa ar nifer o ymyriadau sydd o fudd i drigolion lleol ac ymwelwyr â’r dref. Fel aelod lleol y dref, rwy’n falch o weld faint o waith sy’n cael ei wneud yn Sanclêr, a byddwn yn annog unrhyw un i ymweld â’r dref a dysgu am ei hanes cyfoethog.

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect y 10 Tref, ewch i'r wefan.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau yn Sir Gâr, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.