Disgyblion yn rhoi eu barn ar gyllideb y Cyngor Sir

48 diwrnod yn ôl

Mae timau o 10 ysgol uwchradd ledled Sir Gaerfyrddin wedi rhoi eu barn ar y cynigion yng nghyllideb y Cyngor fel rhan o ddigwyddiad a drefnwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae digwyddiad blynyddol Golwg Sir Gâr yn agored i bob ysgol uwchradd yn y sir yn ogystal â Choleg Sir Gâr, ac mae'n rhoi cyfle i ddisgyblion roi eu hunain yn rolau Cabinet y Cyngor ac i drafod eu barn ynghylch y gyllideb arfaethedig.

Nod y digwyddiad yw cyflwyno pobl ifanc i lywodraeth leol a rhoi cipolwg iddynt ar yr heriau o ddydd i ddydd. Mae hefyd yn gyfle i Aelodau'r Cabinet glywed barn disgyblion a thrafod â nhw'n uniongyrchol am faterion sydd o bwys iddynt.

Eleni, roedd timoedd o ddisgyblion o flynyddoedd 9-13 o Ysgol y Strade, Ysgol Gyfun Emlyn, Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth, Dyffryn Taf, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Coedcae, Bryngwyn, Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth, Ysgol Glan-y-Môr ac Ysgol Bro Dinefwr wedi cymryd rhan yn y digwyddiad ddydd Mercher, 22 Ionawr yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin.

Cyflwynwyd eu canfyddiadau i'r Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor; Wendy Walters, y Prif Weithredwr; Aelodau'r Cabinet ac uwch-swyddogion yn Siambr y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae digwyddiad Golwg Sir Gâr yn gyfle arbennig i glywed safbwyntiau gonest ac uniongyrchol gan bobl ifanc y sir. Rwy' am ddiolch iddyn nhw a'u hathrawon am fod yn rhan o'r digwyddiad. Rydym ni i gyd wedi elwa'n fawr ar y profiad hwn, ac rwy' wir yn gwerthfawrogi eu cyfraniadau ystyriol.

Dweud eich dweud am gyllideb y Cyngor:

https://newsroom.carmarthenshire.gov.wales/2024/12/have-your-say-on-the-council-s-plan-to-find-budget-savings/

Mae'r ymgynghoriad yn cau ddydd Sul, 26 Ionawr 2025 - peidiwch â cholli'ch cyfle i leisio eich barn!