Diolch am gefnogi siopau sionc Nadolig 100% Sir Gâr

28 diwrnod yn ôl

Roedd dros 12,000 o bobl wedi mynychu Siopau Sionc Nadolig 100% Sir Gâr 2024 yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman - gan roi hwb sylweddol i fusnesau nifer o werthwyr Sir Gâr a fanteisiodd ar y cynnig gan y Cyngor Sir o gael siop sionc yn un o'r tair prif stryd fawr.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dymuno diolch i holl fusnesau Sir Gâr a fu’n rhan o Siopau Sionc Nadolig 100% Sir Gâr eleni a'r miloedd o siopwyr a ymwelodd â'r siopau sionc ar gyfer eu holl anrhegion Nadolig.

Am dair wythnos yn arwain at y Nadolig, cafodd 44 o fusnesau bach lleol y cyfle i ddangos a gwerthu eu nwyddau ymhlith y siopau cadwyn mawr ar y stryd fawr yng nghanol trefi Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman.

Ymhlith y masnachwyr eleni roedd Yoka Kilkelly, o Siramik, a oedd â siop sionc ar stryd fawr Caerfyrddin. Dywedodd Yoka:

Roedd siop sionc 2024 wedi cael ei threfnu'n dda iawn. Diolch i 100% Sir Gâr am drefnu'r siop sionc i roi cyfle i fasnachwyr lleol ddangos i gwsmeriaid ein bod yn bodoli. Am achlysur gwych.”

Roedd Mari Cresci Cheesecake yn bresennol yn nigwyddiad Siopau Sionc Nadolig yn Rhydaman:

Rwy' wir yn gwerthfawrogi bod yn rhan o'r cabanau Nadolig yn Rhydaman. Fe wnaethon ni'n well na'r cabanau Nadolig yng Nghaerdydd mewn gwirionedd! Rydyn ni wedi bod yn gwneud hyn ers dwy flynedd erbyn hyn, ac maen nhw wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae'r ffaith eu bod nhw'n rhad ac am ddim yn help mawr i'n busnes bach.”

Dyma’r tro cyntaf yn nigwyddiad Siopau Sionc Nadolig 100% Sir Gâr  i Crystal Harmonizing Creations, a gafodd brofiad cadarnhaol iawn yn Llanelli: 

Roedd y siop sionc yn wych gan fy mod i'n newydd i hyn ac fe ddysgais i lawer drwy wneud y siop sionc. Bydda i'n bendant yn ei wneud eto eleni, diolch am y cyfle.”

Cafodd y prosiect hwn ei ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Diolch i bawb a gefnogodd ein busnesau lleol a oedd yn masnachu yn Siopau Sionc Nadolig 100% Sir Gâr. Diolch hefyd i fusnesau Sir Gâr a fu'n masnachu o'r Siopau Sionc Nadolig gan eich bod i gyd wedi chwarae rhan sylweddol yn denu ymwelwyr i ganol ein tair prif dref a hefyd yn arddangos y cynnyrch gorau sydd gan Sir Gâr i'w gynnig.”

Mae cynllun 100% Sir Gâr wedi'i greu fel ffenestr siop rithwir gyda chymorth y cynghorau tref a chymuned a grwpiau busnes a manwerthu, i roi llwyfan i fanwerthwyr a chynhyrchwyr lleol dynnu sylw at eu cynnyrch.

Caiff manwerthwyr, cynhyrchwyr, gwneuthurwyr a chrefftwyr annibynnol yn Sir Gaerfyrddin eu hannog i gofrestru i fod yn rhan o'r llwyfan, a fydd yn gyfle ychwanegol i hyrwyddo a marchnata eu busnes i gwsmeriaid newydd a chwsmeriaid presennol.

Os ydych yn berchen ar fusnes bach yn Sir Gaerfyrddin ac eisiau cymryd rhan mewn digwyddiadau yn y dyfodol, cofrestrwch drwy ddefnyddio'r ddolen hon.