Datganiad gan Heddlu Dyfed-Powys - cynnal ymarfer amlasiantaeth ddydd Mawrth 4 Chwefror 2025

41 diwrnod yn ôl

Fel rhan o sicrhau parodrwydd, bydd Heddlu Dyfed-Powys, ynghyd ag asiantaethau partner, yn cynnal ymarfer amlasiantaeth i wirio a phrofi cynlluniau, protocolau a gweithdrefnau ymateb brys pe bai digwyddiad mawr, ddydd Mawrth 4 Chwefror 2025 ar safle Rheilffordd Gwili yn Abergwili. Bydd nifer fawr o gynrychiolwyr asiantaethau partner yn bresennol ac yn cymryd rhan yn yr ymarfer, gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys, Cyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Ysbyty Glangwili, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. 

Mae hyn yn golygu y bydd lefelau uwch o weithgarwch o bosib yn yr ardal ac o amgylch Ysbyty Glangwili ar y diwrnod hwn, rhwng 8am a 6pm ond gallwch fod yn dawel eich meddwl nad oes dim byd i boeni amdano.

Bydd trefniadau ar gyfer yr ymarfer yn dechrau ddydd Llun 3 Chwefror ar y safle, a gofynnir i'r cyhoedd osgoi ardal Rheilffordd Gwili rhwng dydd Llun a dydd Gwener. Ni fydd mynediad i'r cyhoedd i'r safle yn ystod y cyfnod hwn.  

 

Hoffem sicrhau pawb yn yr ardal y bydd yr holl weithgarwch cynyddol a welir yn yr ardal ar yr adeg hon yn rhan o ymarfer cydgysylltiedig sydd wedi'i gynllunio ymlaen llaw, ac nid oes achos i bryderu.

Os oes gan unrhyw un gwestiynau, cysylltwch â'r Prif Arolygydd Tim Davies, https://bit.ly/DPPContactOnline ar-lein, e-bostiwch 101@dyfed-powys.police.uk, neu ffoniwch 101.